{"id":9563,"date":"2025-02-11T08:11:56","date_gmt":"2025-02-11T08:11:56","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=9563"},"modified":"2025-03-12T14:33:00","modified_gmt":"2025-03-12T14:33:00","slug":"five-things-we-learned-from-our-from-poverty-to-prosperity-event","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/five-things-we-learned-from-our-from-poverty-to-prosperity-event\/","title":{"rendered":"Pum peth rydyn ni wedi\u2019u dysgu o'n digwyddiad 'O dlodi i ffyniant'"},"content":{"rendered":"<p>Yn ein digwyddiad diweddar yn y Gyfres Ymgyfraniad yn Aberystwyth, fe fuon ni\u2019n archwilio sut y gall dinasyddion helpu i wireddu'r nod o sicrhau Cymru Lewyrchus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Trwy brofiad panelwyr, trafodaeth ac ymarfer Caffi'r Byd, fe aethon ni ati i ddadorchuddio mewnwelediadau allweddol ynghylch r\u00f4l iaith, cydweithio ac ymgyfraniad dinasyddion wrth fynd i'r afael \u00e2 thlodi a sbarduno newid ystyrlon. Dyma chwech o\u2019r prif bethau a ddysgwyd ar y diwrnod.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"data:image\/gif;base64,R0lGODlhAQABAIAAAAAAAP\/\/\/yH5BAEAAAAALAAAAAABAAEAAAIBRAA7\" data-src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-9565 lazyload\"\/><noscript><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-9565 lazyload\" srcset=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual-1024x1024.png 1024w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual-300x300.png 300w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual-150x150.png 150w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual-768x768.png 768w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual-12x12.png 12w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/newsletter-visual.png 1080w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/noscript><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>1. P\u0175er iaith: fframio'r sgwrs ar gyfer cynhwysiant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae iaith yn ddylanwad hanfodol ar y ffordd y mae pobl yn ymgysylltu \u00e2 thrafodaethau ynghylch tlodi, ond mae dod o hyd i'r cydbwysedd iawn yn allweddol. Fe fu\u2019r panelwyr Dave Gittins, cyfarwyddwr Asiantaeth Ynni Severn Wye, a Sophie Buckley, rheolwr rhaglen Cryfhau Cymunedau gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), yn tynnu sylw at y ffaith fod termau fel 'tlodi' weithiau\u2019n gallu bod yn rhwystr \u2013 mae yna lawer o bobl sydd ddim yn uniaethu \u00e2'r label ac efallai na fyddant eisiau bod yn rhan o\u2019r sgyrsiau oherwydd hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar yr un pryd, rhybuddiodd eraill yn erbyn meddalu\u2019r iaith i'r pwynt lle mae realiti tlodi yn cael ei guddio. Fel y dywedodd Geraldine Murphy o Gyngor ar Bopeth Sir Benfro, \"dydy esgus bod tlodi ddim yn bodoli ddim yn beth iawn i\u2019w wneud nac yn beth moesegol i'w wneud\". Mae cydnabod tlodi'n agored, a sicrhau ar yr un pryd fod iaith yn gynhwysol ac yn grymuso, yn gydbwysedd delicet ond angenrheidiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall sefydlu iaith gyffredin sy'n briodol ar gyfer y lleoliad ac sy\u2019n cael ei datblygu ar y cyd \u00e2 chymunedau, helpu i adlewyrchu profiadau bywyd heb atgyfnerthu stigma, a chreu sgyrsiau sy'n agored ac yn grymuso, gan sicrhau bod y rheiny y mae tlodi yn effeithio arnynt yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>2. Datgelu 'tlodi cudd' a heriau yng nghefn gwlad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna risg o weld tlodi a ffyniant o safbwynt ariannol yn unig. Ond, y gwir yw eu bod nhw\u2019n cynnwys llawer mwy \u2013 mae tlodi o ran cyfleoedd, hyder a phrofiad i gyd yn gallu cyfrannu at gylch ailadroddus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tlodi yng nghefn gwlad yn aml yn parhau i gael ei esgeuluso oherwydd gwasgariad daearyddol, cysylltiadau trafnidiaeth gwael, a mynediad cyfyngedig at wasanaethau. Mewn rhai cymunedau, mae diffyg llwybrau bysiau neu glybiau ieuenctid wedi bodoli erioed, ac felly mae\u2019n anoddach cydnabod y bylchau hyn fel rhwystrau go iawn y mae angen mynd i'r afael \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr her yw dod \u00e2\u2019r materion hyn i\u2019r amlwg fel materion gweladwy, ond hefyd sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rheiny sydd \u00e2\u2019r angen mwyaf amdano. Mae ymgysylltu mewn cymunedau gwledig yn gallu bod yn arbennig o anodd - efallai y bydd angen ymdrech sylweddol i gysylltu \u00e2 nifer fach o bobl. Oherwydd hynny, mae mannau cyfarfod hygyrch a dulliau gweithredu sy'n cael eu gyrru gan y gymuned, yn hanfodol i sicrhau newid ystyrlon.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>3. Mesur llwyddiant: tu hwnt i fetrigau traddodiadol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae holi ni'n hunain, 'beth ydyn ni'n ei olygu wrth lwyddiant?' yn gam cyntaf pwysig wrth i ni geisio deall ble rydyn ni a ble rydyn ni eisiau bod. Dydy dangosyddion economaidd traddodiadol ar eu pen eu hun ddim yn llwyddo i ddal yr hyn y mae ffyniant yn ei olygu i gymunedau yn llwyr. Yn ystod y trafodaethau, amlygwyd yr angen i fesur llwyddiant trwy brofiad bywyd, llesiant cymunedol, a gallu pobl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall dulliau a awgrymir fel y 'Newid Mwyaf Arwyddocaol' a gwerthusiadau sy\u2019n seiliedig ar le, helpu i asesu effaith go iawn. Y nod yw i fwy o bobl deimlo eu bod yn chwarae rhan weithgar wrth ddylanwadu ar si\u00e2p gwasanaethau, gan wybod bod eu cyfraniadau yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cyfrannu at gyflawni canlyniadau a rennir ar gyfer eu cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>4. Mae yna lwybrau i gymunedau yn barod<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae sefydliadau'r trydydd sector ac asedau cymunedol presennol yn llwybrau hanfodol i mewn i gymunedau. I lawer o bobl sy'n profi tlodi, elusennau a sefydliadau arbenigol yw'r lle cyntaf i fynd i gael cymorth, yn aml cyn iddyn nhw fynd at y gwasanaethau statudol. Mae'r sefydliadau hyn, ynghyd \u00e2 rhwydweithiau, busnesau a mentrau cymunedol lleol, wedi meithrin perthnasau  dibynadwy, gan greu cysylltiadau parod y gellir eu defnyddio i gyrraedd y rheiny sydd ag angen, a\u2019u cefnogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y cymunedau eu hunain gyfoeth o asedau a all chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael \u00e2 thlodi. Yn aml, rhwydweithiau anffurfiol, lledu\u2019r gair a hyrwyddwyr cymunedol yw'r glud sy'n dal systemau cymorth lleol at ei gilydd. Mae asedau fel ysgolion gwledig, brecwast ffermwyr, mentrau cymdeithasol, a digwyddiadau diwylliannol hefyd yn cyfrannu at gydnerthedd cymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid cydnabod sefydliadau'r trydydd sector a'r asedau cymunedol hyn fel partneriaid allweddol wrth fynd i'r afael \u00e2 thlodi - nid fel \u00f4l-ystyriaeth ond fel rhan annatod o\u2019r broses o  wneud penderfyniadau. Rhaid i gydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus, y sector gwirfoddol, a mentrau ar lawr gwlad fod yn broses hirdymor a rhagweithiol, yn hytrach nag ymateb i argyfyngau yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>5. Yr awydd cynyddol am gydweithio ac ymgyfraniad ystyrlon<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Un o'r negeseuon cryfaf a ddaeth i\u2019r amlwg yn y digwyddiad oedd y brwdfrydedd cynyddol dros gyd-gynhyrchu. Mynegodd llawer o gyfranogwyr awydd i sicrhau bod ymgyfraniad ystyrlon i ddinasyddion yn dod yn \u2018norm\u2019 yn hytrach nag yn eithriad.<\/p>\n\n\n\n<p>Serch hynny, roedd yna gydnabyddiaeth gref hefyd fod yn rhaid sicrhau bod yr ymgyfraniad yn cael ei wneud dda. Pwysleisiodd Dave Gittins y \"dylai'r baich fod ar y darparwr gwasanaethau i sicrhau bod yr amseru\u2019n iawn i'r rheiny sy'n ymgyfrannu\", a thynnodd sylw at bwysigrwydd cynllunio ymgyfraniad o amgylch argaeledd pobl a\u2019u hanghenion. Atgyfnerthodd Sophie Buckley hyn, gan ddweud y dylai \"cynnwys pobl sydd \u00e2 phrofiad bywyd wrth gynllunio gwasanaethau fod yn ofyniad, ac nid yn opsiwn ychwanegol yn unig \".<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Symud ymlaen<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r mewnwelediadau o'n digwyddiad yn cadarnhau bod sicrhau Cymru Lewyrchus yn gofyn am fwy na thwf economaidd - mae'n gofyn am newid yn y ffordd yr ydyn ni\u2019n siarad am dlodi, yn mesur llwyddiant, ac yn cynnwys cymunedau wrth lunio atebion, gan alinio arfer \u00e2 rhai'r <a href=\"https:\/\/wellbeingeconomy.wales\/about-we-cymru\/\">Economi Llesiant efallai.<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i ni symud ymlaen, mae arnom angen adeiladu ar y trafodaethau hyn er mwyn creu dulliau mwy cynhwysol, a arweinir gan y gymuned, wrth fynd i'r afael \u00e2 thlodi. Mae'r awydd am newid yno - nawr rhaid gweithredu\u2019r hyn a ddysgwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Eisiau dylanwadu ar benderfyniadau lleol a chenedlaethol i fynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi? Mae Rhwydwaith Deall Stigma Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal eu cyfarfod ar-lein nesaf ar 12 Chwefror 2025, 10:00 \u2013 12:00. <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/project\/insight-network\/\">Ewch yma i gofrestru!<\/a>!<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>At our recent Involvement Series event in Aberystwyth, we explored how citizens can help realise the goal of a Prosperous Wales under the Well-being of Future Generations Act. Through panellist experience, discussion, and a World Caf\u00e9 exercise, we uncovered key insights on the role of language, collaboration, and citizen involvement in tackling poverty and driving&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/five-things-we-learned-from-our-from-poverty-to-prosperity-event\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Pum peth rydyn ni wedi\u2019u dysgu o'n digwyddiad 'O dlodi i ffyniant'<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-9563","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-project-dewi-psbs"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9563","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9563"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9563\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9563"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9563"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9563"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}