{"id":9506,"date":"2024-11-11T10:38:40","date_gmt":"2024-11-11T10:38:40","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=9506"},"modified":"2024-11-19T13:46:12","modified_gmt":"2024-11-19T13:46:12","slug":"invitation-to-tender-evaluating-project-dewis-impact-on-co-production-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/invitation-to-tender-evaluating-project-dewis-impact-on-co-production-in-wales\/","title":{"rendered":"Gwahoddiad i Dendro: Gwerthuso Effaith Prosiect Dewi ar Gyd-gynhyrchu yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn gyffrous i gyhoeddi gwahoddiad i dendro ar gyfer y gwaith o werthuso Prosiect Dewi, sef ein rhaglen 5-mlynedd sy\u2019n anelu at sefydlu arferion cyd-gynhyrchu o fewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle unigryw i werthuswr profiadol weithio gyda ni er mwyn dogfennu taith Prosiect Dewi ac asesu ei effaith ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mwy am Brosiect Dewi<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Lansiwyd Prosiect Dewi ar Ddydd G\u0175yl Dewi yn 2021 ac fe\u2019i ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae\u2019n rhaglen 5-mlynedd sydd wedi ymrwymo i feithrin ymgyfraniad cymunedol ystyrlon o fewn y BGCau. \nMae gan Brosiect Dewi ddwy elfen greiddiol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cefnogaeth wedi\u2019i theilwra\u2019n arbennig i BGCau<\/strong>: Rydyn ni\u2019n gweithio'n uniongyrchol gyda thri chlwstwr o BGCau rhanbarthol (Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru, a Chwm Taf Morgannwg) i hyrwyddo eu harfer ymgysylltu ac ymgyfraniad, gan gefnogi'r symudiad tuag at wasanaethau cyhoeddus sydd wedi eu cyd-gynhyrchu\u2019n llwyr.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rhwydwaith Rhannu Dysgu<\/strong>: Llwyfan ar gyfer rhannu gwybodaeth yw\u2019r Rhwydwaith Rhannu Dysgu ac mae\u2019n cysylltu rhanddeiliaid ar draws Cymru, gan ddarparu adnoddau a chyfleoedd i ddysgu am gyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Mae ein ffordd o weithio gyda BGCau yn ymdrochi ac yn ymarferol: rydyn ni\u2019n gweithio ochr yn ochr \u00e2 thimau BGCau i feithrin gallu, hyder a chydberthnasau a fydd yn cynnal arferion cyd-gynhyrchiol yn y tymor hir.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pam rydyn ni\u2019n chwilio am Bartner Gwerthuso<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth i ni ddechrau ar flwyddyn olaf Prosiect Dewi, rydyn ni eisiau cael mewnwelediadau manylach i ganlyniadau\u2019r prosiect, yr heriau a\u2019i effaith ar ddiwylliant gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn benodol, rydyn ni eisiau deall beth sydd wedi gweithio'n dda, beth fyddai\u2019n gallu cael ei wella, a sut y gall ein dulliau a'n hadnoddau gefnogi newid parhaus sy'n cael ei yrru gan y gymuned. Bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i fyfyrio ar ein cynnydd, mireinio ein strategaethau, a pharatoi at ddyfodol cyd-gynhyrchu yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Yr hyn yr ydyn ni\u2019n chwilio amdano<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n gwahodd cynigion gan werthuswyr sydd ag arbenigedd mewn dulliau cyfranogol a chyd-gynhyrchiol, a dealltwriaeth gref o dirwedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Bydd y gwerthuswr llwyddiannus yn ein helpu i archwilio them\u00e2u allweddol, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Effaith Prosiect Dewi ar arferion BGCau ac ymgyfraniad cymunedol<\/li>\n\n\n\n<li>Effeithiolrwydd ein dull gweithredu ymarferol mewn rhanbarthau gwahanol<\/li>\n\n\n\n<li>Heriau yr ydyn ni wedi eu hwynebu wrth weithio gyda BGCau a sut yr ydyn ni wedi mynd i'r afael \u00e2 nhw<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfraniadau at newid diwylliannol a sefydliadol hirdymor o fewn BGCau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd y gwerthusiad yn ymgysylltu \u00e2 gr\u0175p amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau BGCau, cynrychiolwyr cymunedau, Llywodraeth Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Manylion Allweddol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cyllideb<\/strong>: \u00a310,000 (yn cynnwys TAW)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau<\/strong>: 16 Rhagfyr 2024<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfnod y contract<\/strong>: 1 Mawrth 2025 \u2013 28 Chwefror 2026<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os ydych chi'n angerddol am ddefnyddio gwerthuso i yrru newid cymdeithasol ac os oes gennych y sgiliau i grisialu stori Prosiect Dewi, bydden ni wrth ein bodd i glywed gennych! Mae\u2019r manylion llawn yn ein dogfen \u2018gwahoddiad i dendro\u2019 y gallwch ei <a href=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Gwahoddiad-i-Dendro-ar-gyfer-y-gwaith-o-werthuso-Prosiect-Dewi-CYM.pdf\">lawrlwytho yma<\/a>. Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech gyflwyno'ch cynnig, cysylltwch \u00e2 Rachel Wolfendale trwy anfon neges e-bost i rachel@copronet.wales<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>The Co-production Network for Wales is excited to announce an invitation to tender for the evaluation of Project Dewi, our 5-year programme aimed at embedding co-production practices within Welsh Public Services Boards (PSBs). This is a unique opportunity for an experienced evaluator to work with us on documenting Project Dewi\u2019s journey and assessing its impact&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/invitation-to-tender-evaluating-project-dewis-impact-on-co-production-in-wales\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Gwahoddiad i Dendro: Gwerthuso Effaith Prosiect Dewi ar Gyd-gynhyrchu yng Nghymru<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-9506","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-project-dewi-psbs"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9506","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9506"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9506\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9506"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9506"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9506"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}