{"id":9407,"date":"2024-08-13T14:00:46","date_gmt":"2024-08-13T13:00:46","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=9407"},"modified":"2024-08-13T14:09:38","modified_gmt":"2024-08-13T13:09:38","slug":"six-things-we-learnt-from-the-rural-futures-report-tackling-rural-poverty-through-community-involvement","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/six-things-we-learnt-from-the-rural-futures-report-tackling-rural-poverty-through-community-involvement\/","title":{"rendered":"Chwe pheth wnaethon ni eu dysgu o\u2019r Adroddiad Dyfodol Gwledig: Mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi gwledig yng Nghymru trwy ymgyfraniad y gymuned"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\" style=\"grid-template-columns:85% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img decoding=\"async\" src=\"data:image\/gif;base64,R0lGODlhAQABAIAAAAAAAP\/\/\/yH5BAEAAAAALAAAAAABAAEAAAIBRAA7\" data-src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/275267378_333877268793796_6029574025277586123_n.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9410 size-full lazyload\"\/><noscript><img decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"720\" src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/275267378_333877268793796_6029574025277586123_n.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9410 size-full lazyload\" srcset=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/275267378_333877268793796_6029574025277586123_n.jpg 960w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/275267378_333877268793796_6029574025277586123_n-300x225.jpg 300w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/275267378_333877268793796_6029574025277586123_n-768x576.jpg 768w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/275267378_333877268793796_6029574025277586123_n-16x12.jpg 16w\" sizes=\"(max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/noscript><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Adroddiad Dyfodol Gwledig a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlygu\u2019r camau breision a wnaed wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi gwledig ledled Cymru. Ariannwyd Rhaglen saith-mlynedd <a href=\"https:\/\/ruralfutures.wales\/\">Dyfodol Gwledig gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol<\/a> ac fe ddaeth \u00e2 14 o gymunedau at ei gilydd i roi sylw i\u2019r heriau unigryw maen nhw\u2019n eu hwynebu. Dyma chwe pheth allweddol yr ydyn ni wedi eu dysgu o\u2019r adroddiad:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>1. Meithrin sgiliau a gallu<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Rhaglen Dyfodol Gwledig wedi llwyddo i gyfoethogi sgiliau a gallu cymunedau gwledig. Mae wedi gwneud hynny trwy ddatblygu a gweithredu prosiectau sy\u2019n rhoi sylw i anghenion lleol, sicrhau cyllid a gweithredu atebion effeithiol. Mae sawl gr\u0175p nawr yn datblygu prosiectau dilynol i barhau \u00e2\u2019r broses hon, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud cynnydd parhaus wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi yng nghefn gwlad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>2. Rhoi sylwi i dlodi yn ei wreiddiau<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Un o gyraeddiadau amlwg y rhaglen yw gweld cymunedau yn archwilio\u2019r achos wrth wraidd problemau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi yng nghefn gwlad gyda\u2019i gilydd, ac yn cyd-gynhyrchu eu hatebion eu hunain. Mewn llawer o gymunedau fe fydd cael lle i gwrdd ac i archwilio syniadau yn gatalydd ar gyfer gwaith dilynol ac yn sefydlu dealltwriaeth ddyfnach o\u2019r materion a chreu ymyriadau mwy cynaliadwy ac effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>3. Mae ymatebion a arweinir gan y gymuned yn hanfodol<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae pwysigrwydd ymatebion a arweinir gan y gymuned mewn polis\u00efau gwrthdlodi a datblygu gwledig yn hanfodol. Mae\u2019r adroddiad yn tynnu sylw at fentrau fel creu cwmni budd cymunedol newydd <a href=\"https:\/\/connectceredigion.org.uk\/yr-ardd\">Yr Ardd yn Llandysul<\/a>, Ceredigion mewn ymateb i bryderon am ddiogeledd bwyd, ac <a href=\"https:\/\/cabancynfi.wordpress.com\/2024\/03\/03\/good-news-for-deiniolen-and-district\/\">adnewyddu mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach mewn ysgol leol<\/a> yn Neiniolen, Gwynedd er mwyn integreiddio ac uwchsgilio\u2019r gymuned. Mae\u2019r mentrau hyn yn dangos sut y gall cymunedau ddod yn fwy cydlynol a chydnerth trwy ddeall anghenion lleol ac adeiladu ar gydberthnasau sydd eisoes yn bodoli i gyflawni newid ystyrlon.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>4. Dylanwadu ar bolisi er mwyn cael effaith ehangach<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae tystiolaeth o\u2019r Rhaglen Dyfodol Gwledig wedi bod yn allweddol wrth ddylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud \u00e2 pholisi. Trwy ddarparu mewnwelediadau a data trwy ddogfennau fel y pecyn cymorth <a href=\"https:\/\/ruralfutures.wales\/resources\/\">\u2018Mewnwelediadau Cynnar\u2019<\/a>, mae\u2019r rhaglen wedi cefnogi\u2019r rheiny sy\u2019n llunio polis\u00efau i wneud penderfyniadau deallus sydd o fudd i ardaloedd gwledig. Mae\u2019r dylanwad hwn yn ymestyn y tu hwnt i ymyriadau di-oed ac yn cyfrannu at amgylchedd mwy cefnogol ar gyfer cymunedau gwledig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>5. Datblygu partneriaethau effeithiol<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae asiantaethau a sefydliadau lleol wedi eu harfogi\u2019n well i gefnogi cymunedau trwy gydweithio ar sail gwybodaeth. Datblygodd pob prosiect bartneriaethau gyda sefydliadau ac asiantaethau lleol, ac mewn llawer o achosion newydd datblygwyd cydberthnasau newydd i greu grwpiau newydd neu i alluogi gweithgareddau newydd. Yn aml, roedd prosiectau\u2019n creu cyfleoedd, ac yn aml arweiniodd hyn at gyd-leoli gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>6. Straeon llwyddiant o fywyd go-iawn<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan yr adroddiad gyfoeth o astudiaethau achos sy\u2019n dangos buddion amlwg y Rhaglen Dyfodol Gwledig. O <a href=\"https:\/\/www.clear-village.org\/oriel-machno\">ddatblygiad gwasanaethau lleol fel siop fwyd ac oriel newydd<\/a> ym Mro Machno, Conwy, i bentrefi Cilgeti a Begeli, sydd drws nesaf i\u2019w gilydd, yn datblygu <a href=\"https:\/\/www.tenby-today.co.uk\/news\/national-lottery-funding-proves-crucial-to-development-of-kilgetty-project-641995\">amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, mannau cynnes a gweithgareddau<\/a> i roi sylw i ynysu yng nghefn gwlad. Mae\u2019r straeon hyn yn amlygu effaith go-iawn ac yn ysbrydoliaeth ac yn fodelau i gymunedau gwledig eraill sy\u2019n wynebu heriau tebyg. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Adroddiad Dyfodol Gwledig yn pwysleisio p\u0175er ymgyfraniad y gymuned wrth roi sylw i dlodi yng nghefn gwlad. Trwy ganolbwyntio ar feithrin gallu, rhoi sylw i\u2019r achosion wrth wraidd tlodi, datblygu partneriaethau a dylanwadu ar bolisi, mae\u2019r rhaglen wedi gosod meincnod ar gyfer mentrau\u2019r dyfodol. Yn yr adroddiad ceir ysbrydoliaeth i wasanaethau cyhoeddus efelychu\u2019r llwyddiannau hyn ac adeiladu arnynt, ac mae\u2019r chwe gwers hyn yn fap trywydd i rymuso cymunedau gwledig a mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi yn ei graidd. <a href=\"https:\/\/ruralfutures.wales\/rural-futures-case-studies\/\">Darllenwch y cyfan yma.<\/a>.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>The recently published Rural Futures Report sheds light on the significant strides made in tackling rural poverty across Wales. Funded by The National Lottery Community Fund, the seven-year Rural Futures Programme brought together 14 communities to address the unique challenges they face. Here are six key things we learned from the report: 1. Building skills&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/six-things-we-learnt-from-the-rural-futures-report-tackling-rural-poverty-through-community-involvement\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Chwe pheth wnaethon ni eu dysgu o\u2019r Adroddiad Dyfodol Gwledig: Mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi gwledig yng Nghymru trwy ymgyfraniad y gymuned<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-9407","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-project-dewi-psbs"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9407","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9407"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9407\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9407"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9407"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9407"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}