{"id":9272,"date":"2024-04-29T14:06:39","date_gmt":"2024-04-29T13:06:39","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=9272"},"modified":"2024-04-29T14:09:28","modified_gmt":"2024-04-29T13:09:28","slug":"building-inclusive-engagement-with-ethnically-diverse-communities","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/building-inclusive-engagement-with-ethnically-diverse-communities\/","title":{"rendered":"Meithrin ymgysylltiad cynhwysol \u00e2 chymunedau sy\u2019n amrywiol o ran ethnigrwydd"},"content":{"rendered":"<p>Ym maes ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned, mae\u2019r iaith yr ydyn ni\u2019n ei defnyddio yn bwysig. Yn aml, mae termau fel \"anodd eu cyrraedd\" a \"nas clywir yn aml\" yn taro\u2019r bai ar y cymunedau eu hunain, gan esgeuluso\u2019r rhwystrau systemig y maen nhw\u2019n eu hwynebu. Yn hytrach na chymryd nad oes diddordeb, mae\u2019n hanfodol cwestiynu hygyrchedd sefydliadau a deall yr heriau amlochrog y mae unigolion yn dod ar eu traws, gan gynnwys ffactorau cymdeithasol ac economaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna heriau unigryw wrth ymgysylltu \u00e2 chymunedau sy\u2019n amrywiol o ran ethnigrwydd, o rwystrau iaith i bryderon diwylliannol. Er enghraifft, efallai bod rhai cymunedau penodol ddim yn ymddiried yn sefydliadau oherwydd profiadau yn y gorffennol. Ar ben hyn, mae llai o gyllid cyhoeddus yn arwain at ddulliau ymgysylltu cyffredinol, ac yn esgeuluso anghenion cymunedau amrywiol sy\u2019n aml yn wahanol eunaws. Mae deall naws y mannau y mae cymunedau yn byw ac yn cymdeithasu ynddynt, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig, yn hanfodol er mwyn ymgysylltu\u2019n effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml, mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae prinder cyd-adeiladu tystiolaeth yn gallu rhwystro ymdrechion i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon. Mae gwella\u2019r ffordd y mae data\u2019n cael eu rhannu, a chanolbwyntio ar arferion cynhwysol, yn hanfodol i sicrhau cynnydd. Mae rhai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dechrau sylweddoli\u2019r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau wrth ddefnyddio data\u2019n ddienw, er mwyn adeiladu ar dystiolaeth ei gilydd yn hytrach na chreu rhywbeth newydd bob tro a gor-ymgynghori \u00e2 rhai cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Felly, beth allwn ni ei wneud i feithrin gwir gysylltiadau?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae codi ymwybyddiaeth ac addysgu\u2019n hunain am ddiwylliannau\u2019r cymunedau yr ydym eisiau ymgysylltu \u00e2 nhw, a\u2019u cefndiroedd, yn allweddol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae amseru\u2019n bwysig; mae ceisio osgoi dyddiadau crefyddol neu ddiwylliannol, a dewis amserau priodol ar gyfer cyfarfodydd, yn dangos parch.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ymrwymo i beidio \u00e2 gwneud unrhyw niwed a sicrhau nad yw prosesau ymgysylltu yn tynnu oddi wrth bobl, yn hanfodol. Mae hyn yn golygu gwerthfawrogi amser pobl, osgoi addo gormod, a mynd ati\u2019n weithgar i geisio adborth.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n hanfodol dewis y lleoliad a\u2019r dull ymgysylltu iawn. Mae ffurfio partneriaeth gyda sefydliadau cymunedol ac unigolion sydd \u00e2 rhwydweithiau wedi eu sefydlu\u2019n barod, yn meithrin ymddiriedaeth ac yn golygu bod modd cael cydberthnasau hirdymor. Mae buddsoddi mewn grwpiau cymunedol o leiafrifoedd ethnig trwy gyllido, meithrin gallu a sicrhau mynediad at wasanaethau hanfodol, yn allweddol er mwyn grymuso cymunedau sy\u2019n aml yn cael eu hesgeuluso.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cyfathrebu effeithiol wrth galon ymgysylltu llwyddiannus. Mae\u2019n hollbwysig ystyried anghenion cyfathrebu amrywiol, defnyddio iaith gynhwysol, a meddwl am lefelau llythrennedd. Mae allgymorth digidol yn gallu ehangu cwmpas yr ymgynghori, ond mae\u2019n hanfodol sicrhau cynhwysiant.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Pan fydd ymgysylltu\u2019n cael ei wneud yn dda, mae yna fuddion niferus. Mae\u2019n dylanwadu ar bolisi, yn gwella dealltwriaeth o gymunedau, yn adeiladu cydberchnogaeth dros y canlyniadau, ac yn meithrin ymddiriedaeth. Ond, pan fydd yn anodd meithrin cysylltiad, mae ymgysylltu \u00e2 chynrychiolwyr allweddol y gymuned, cysylltu \u00e2 Chynghorau Gwirfoddol Sirol a blaenoriaethu cydberthnasau o ymddiriedaeth, yn strategaethau allweddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn ymgysylltu \u00e2 chymunedau sy\u2019n amrywiol o ran ethnigrwydd, mae angen gweithredu \u00e2 bwriad, amynedd ac ymrwymiad i gynhwysiant. Trwy gael gwared ar labeli, deall heriau unigryw, a chofleidio amrywiaeth, gallwn adeiladu arferion ymgysylltu sy\u2019n wirioneddol gynhwysol ac sydd o fudd i bawb. Mae\u2019n golygu mwy na chyrraedd cymunedau; mae\u2019n golygu meithrin gwir gysylltiad \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae\u2019r blog hwn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Ross Thomas o Tai Pawb yn rhan o Rwydwaith Dysgu ar y Cyd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn Project Dewi. Cynlluniwyd yr is-rwydwaith hwn er mwyn annog pobl sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i rannu arfer da ac i gynorthwyo\u2019i gilydd gyda\u2019u heriau, ac i gefnogi\u2019r broses hon. Cofiwch gysylltu os hoffech chi gymryd rhan: <a href=\"mailto:dataprotection@copronet.wales\">helo@copronet.cymru<\/a>.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>In the area of community engagement, the language we use matters. Terms like &#8220;hard to reach&#8221; and &#8220;seldom-heard&#8221; often place blame on communities themselves, neglecting the systemic barriers they face. Instead of assuming disinterest, it&#8217;s crucial to question organisational accessibility and understand the multifaceted challenges individuals encounter, including socio-economic factors. Engaging ethnically diverse communities presents&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/building-inclusive-engagement-with-ethnically-diverse-communities\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Meithrin ymgysylltiad cynhwysol \u00e2 chymunedau sy\u2019n amrywiol o ran ethnigrwydd<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-9272","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-project-dewi-psbs"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9272","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9272"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9272\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9272"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9272"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9272"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}