{"id":9169,"date":"2023-11-24T18:06:54","date_gmt":"2023-11-24T18:06:54","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=9169"},"modified":"2023-11-24T18:06:57","modified_gmt":"2023-11-24T18:06:57","slug":"understanding-social-value-a-framework-for-positive-change","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/understanding-social-value-a-framework-for-positive-change\/","title":{"rendered":"Deall gwerth cymdeithasol: fframwaith i sicrhau newid cadarnhaol"},"content":{"rendered":"<p>Mewn byd sy\u2019n cael ei yrru fwyfwy gan fetreg ac effaith, mae\u2019n hollbwysig deall gwerth cymdeithasol, a\u2019i feintoli. Mae\u2019n fwy na mesur yr hyn yr ydych chi\u2019n ei wneud yn unig; mae\u2019n golygu gwneud penderfyniadau gwybodus er mwyn gwella bywydau pobl a chymunedau. Yn y blog hwn, byddwn yn twrio i gysyniad gwerth cymdeithasol, ei egwyddorion, a\u2019i arwyddoc\u00e2d ar gyfer creu byd gwell.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diben gwerth cymdeithasol a rheoli effaith<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn y b\u00f4n mae gan werth cymdeithasol a rheoli effaith sawl diben hanfodol;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Adrodd am berfformiad:<\/strong> Mae\u2019n gymorth i sefydliadau adrodd wrth randdeiliaid am eu perfformiad, ac yn aml mae hyn yn ofyniad ar gyfer gweithgareddau a phrosesau caffael amrywiol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Mesur effeithiau cadarnhaol:<\/strong> Mae\u2019n darparu fframwaith ar gyfer mesur effeithiau cadarnhaol sefydliad, gan alluogi cynnydd yn y canlyniadau cadarnhaol a lleihad yn y canlyniadau negyddol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwella effeithiau: <\/strong>Tu hwnt i fesur, mae\u2019n annog sefydliadau i wneud penderfyniadau gwybodus, gyda\u2019r nod o wella\u2019u heffaith, a mynd ymhellach nag olrhain niferoedd yn unig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw gwerth cymdeithasol?<\/h3>\n\n\n\n<p>Gwerth cymdeithasol yw gwerth neu bwysigrwydd cymharol newidiadau i\u2019w llesiant yn llygaid pobl a chymunedau. Mae\u2019n cwmpasu\u2019r amcanion a fwriedir ar gyfer gweithgaredd a hefyd canlyniadau cadarnhaol a negyddol anfwriadol. Er mwyn deall gwerth cymdeithasol, gallwn droi at wyth egwyddor sylfaenol:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 1: ymgyfraniad rhanddeiliaid<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n hanfodol i chi sicrhau ymgyfraniad y rheiny a fydd yn profi\u2019r newidiadau yn ganlyniad i\u2019ch gweithgaredd. Mae persbectifau rhanddeiliaid yn dylanwadu ar si\u00e2p yr hyn a fesurir a\u2019r hyn a werthfawrogir mewn gweithgarwch gwerth cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 2: deall beth sy\u2019n newid<\/h4>\n\n\n\n<p>Adnabod newidiadau cadarnhaol a negyddol. Y newidiadau hyn, boed yn fwriadol neu\u2019n anfwriadol, yw canlyniadau eich gweithgarwch, ac maent yn bosibl oherwydd cyfraniadau rhanddeiliaid. Trwy fesur y canlyniadau cewch y dystiolaeth fod y newid wedi digwydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 3: gwerthfawrogi\u2019r pethau sy\u2019n bwysig<\/h4>\n\n\n\n<p>Dylech gydnabod gwerth rhanddeiliaid trwy ddyrannu adnoddau rhwng dewisiadau gwahanol. Ffordd effeithiol o ddylanwadu ar benderfyniadau yw cymharu gwerth \u00e2 chost y gweithgaredd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 4: dylech gynnwys yr hyn sy\u2019n bwysig yn unig<\/h4>\n\n\n\n<p>Penderfynwch pa wybodaeth a thystiolaeth sy\u2019n gorfod cael eu cynnwys yn y cyfrifon er mwyn rhoi darlun gwir a theg, gan alluogi rhanddeiliaid i ddod i gasgliadau rhesymol am yr effaith.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 5: peidiwch \u00e2 gor-ddweud<\/h4>\n\n\n\n<p>Trwy hawlio\u2019r gwerth y mae\u2019r gweithgareddau yn gyfrifol am ei greu yn unig, byddwch yn helpu pobl neu sefydliadau eraill i gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol, yn osgoi canlyniadau negyddol ac yn hyrwyddo ffordd gydweithredol o gyflawni\u2019r canlyniadau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 6: byddwch yn agored<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd eich dadansoddiad yn fwy credadwy pan fo\u2019r rhesymau dros y penderfyniadau yn dryloyw. Trwy esbonio pob penderfyniad a\u2019i ddogfennu, rydych yn rhoi mewnwelediad i\u2019r ffordd y bydd y gweithgaredd yn newid yn ganlyniad i\u2019r dadansoddiad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 7: dilyswch y canlyniad<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae sicrwydd annibynnol yn hanfodol er mwyn bod yn wrthrychol ac mae\u2019n helpu rhanddeiliaid i asesu a ydy\u2019r penderfyniadau a wnaed gan y rheiny sy\u2019n gyfrifol am y cyfrif yn rhesymol ai peidio.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Egwyddor 8: byddwch yn ymatebol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r egwyddor hwn yn cynnwys tri math o benderfyniad sy\u2019n gallu uchafu gwerth cymdeithasol: gosod eich targedau yn unol \u00e2 nodau cymdeithasol (er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol), dewis y gweithgareddau gorau i wireddu eich targedau, a gwneud gwelliannau gweithredol i weithgareddau sydd eisoes ar waith.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwerth cymdeithasol ar waith <\/h3>\n\n\n\n<p>Nid cysyniad abstract yw gwerth cymdeithasol; mae\u2019n offeryn pwerus i roi sylw i heriau yn y byd go iawn:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Lleihau anghydraddoldeb:<\/strong> Mae gwerth cymdeithasol yn gallu bod o gymorth i adnabod cyfleoedd i leihau anghydraddoldeb mewn cymunedau, trwy flaenoriaethu gweithgareddau sy\u2019n creu newidiadau cadarnhaol i grwpiau ymylol. <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/940826\/Social-Value-Model-Edn-1.1-3-Dec-20.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mae canllawiau Llywodraeth y DU ei hun<\/a> sy\u2019n anelu at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd, yn ceisio cryfhau tirwedd fusnes y DU a dechrau sicrhau tegwch a chreu mwy o gydraddoldeb yn gyffredinol, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig a diwydiannau uchel eu twf sy\u2019n cael anhawster gyda\u2019r bwlch sgiliau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Lleihau niwed amgylcheddol:<\/strong> Gall sefydliadau ddefnyddio egwyddorion gwerth cymdeithasol i adeiladu naratif i ddangos pwysigrwydd sefydlu sgwrs am ein hamgylchedd, ac adeiladu mwy o fomentwm trwy fesur eu heffaith ar yr amgylchedd a\u2019i rheoli. <a href=\"https:\/\/youtu.be\/V_MsqfYZ1AM\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mae Cyfrifydd Nwyon T\u0177 Gwydr Social Value Portal<\/a> yn helpu sefydliadau o bob maint i olrhain eu hallyriadau ac adeiladu strategaeth i gyrraedd Sero Net.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwella elfennau cadarnhaol a lleihau elfennau negyddol:<\/strong> Mae dadansoddi gwerth cymdeithasol yn helpu sefydliadau i wella canlyniadau cadarnhaol a lliniaru canlyniadau negyddol. Nid oes unrhyw un yn bwriadu creu effeithiau negyddol a hyd nes bod canlyniadau negyddol yn cael eu cydnabod, efallai na fydd y llwybr i\u2019w weld yn rhesymegol. Mae Social Value International wedi ysgrifennu blog difyr am <a href=\"https:\/\/www.socialvalueint.org\/blog\/finding-those-negative-impacts\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddod o hyd i'r effeithiau negyddol<\/a> ac maen nhw\u2019n cynnig rhai technegau sy\u2019n gallu eich helpu i ddechrau adnabod effeithiau negyddol anfwriadol er mwyn gwella\u2019r effeithiau cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Integreiddio i lywodraethiant a strategaethau:<\/strong> Trwy sefydlu egwyddorion gwerth cymdeithasol i mewn i lywodraethiant a strategaethau, gellir sicrhau bod pob penderfyniad yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol. Er enghraifft, mae Cymru wedi cymryd camau pwysig i integreiddio gwerth cymdeithasol i mewn i\u2019r fframwaith deddfwriaethol, yn enwedig trwy <a href=\"https:\/\/www.futuregenerations.wales\/about-us\/future-generations-act\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ddeddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol<\/a> a <a href=\"https:\/\/socialcare.wales\/resources-guidance\/information-and-learning-hub\/sswbact\/overview\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant<\/a>. Mae\u2019r deddfau hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ymgyfraniad pobl, cyd-gynhyrchu gwasanaethau ac uchafu llesiant.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cwestiynau am effaith ar gyfer gwerth cymdeithasol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn mesur gwerth cymdeithasol a\u2019i reoli yn effeithiol, dylai sefydliadau holi cyfres o gwestiynau am effaith:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth yw\u2019r broblem yr ydym yn ceisio\u2019i datrys?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw\u2019r ateb i\u2019r broblem?<\/li>\n\n\n\n<li>Pwy sy\u2019n newid yn ganlyniad i\u2019r gweithgareddau?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut maen nhw\u2019n newid?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut ydyn ni\u2019n mesur y newidiadau?<\/li>\n\n\n\n<li>Faint o bob newid sydd wedi digwydd?<\/li>\n\n\n\n<li>Am ba mor hir y bydd yn para, ac am ba mor hir fyddwn ni\u2019n ei fesur?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw pwysigrwydd cymharol newidiadau gwahanol?<\/li>\n\n\n\n<li>Faint o hyn sy\u2019n cael ei achosi gennym ni?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa newidiadau sy\u2019n ddigon pwysig i ni eu rheoli?<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Mae gwerth cymdeithasol yn fwy nag adrodd am niferoedd yn unig; mae\u2019n golygu cael effaith ystyrlon. Trwy gadw at ei egwyddorion, gall sefydliadau greu byd gwell, lleihau anghydraddoldebau, lleihau niwed amgylcheddol a gwella\u2019u cyfraniadau at gymdeithas yn barhaus. Dewch i ni sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o bopeth a wnawn, gyda ffocws ar wella\u2019n barhaus a sicrhau dychweliadau cadarnhaol ar fuddsoddiad cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae\u2019r blog hwn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Eleri Lloyd o <a href=\"https:\/\/mantellgwynedd.com\/svc\/social-value-cymru.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Social Value Cymru<\/a> yn rhan o\u2019r Rhwydwaith Rhannu Dysgu ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn Prosiect Dewi. Dyluniwyd yr is-rwydwaith hwn i annog pobl sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i rannu arfer da a chynorthwyo\u2019i gilydd gyda\u2019u heriau, a chefnogi\u2019r broses honno. Cofiwch gysylltu os hoffech gymryd rhan: <a href=\"mailto:dataprotection@copronet.wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">helo@copronet.cymru<\/a>.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>In a world increasingly driven by metrics and impact, understanding and quantifying social value is crucial. It&#8217;s not just about measuring what you do, but also about making informed decisions to improve the lives of people and communities. In this blog, we will delve into the concept of social value, its principles, and its significance&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/understanding-social-value-a-framework-for-positive-change\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Deall gwerth cymdeithasol: fframwaith i sicrhau newid cadarnhaol<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":13,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-9169","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-project-dewi-psbs"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9169","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9169"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9169\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9169"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9169"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9169"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}