{"id":8678,"date":"2023-09-22T10:29:41","date_gmt":"2023-09-22T09:29:41","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=8678"},"modified":"2023-11-12T22:39:45","modified_gmt":"2023-11-12T22:39:45","slug":"how-to-design-an-effective-workshop-considerations-for-success","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/how-to-design-an-effective-workshop-considerations-for-success\/","title":{"rendered":"Sut i ddylunio gweithdy effeithiol: ystyriaethau er mwyn llwyddo"},"content":{"rendered":"<p>Mae gweithdai\u2019n offerynnau pwerus i feithrin ymgysylltiad, hyrwyddo cydweithio a chreu syniadau arloesol. Fodd bynnag, er mwyn trefnu gweithdy llwyddiannus mae gofyn cynllunio\u2019n ofalus a meddwl wrth drefnu. Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio rhai o\u2019r ystyriaethau hanfodol wrth drefnu gweithdy sy\u2019n cyflawni ei amcanion ac yn sicrhau profiad cadarnhaol, sy\u2019n cael effaith ar y cyfranogwyr, ar yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/@brookecagle\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><img decoding=\"async\" src=\"data:image\/gif;base64,R0lGODlhAQABAIAAAAAAAP\/\/\/yH5BAEAAAAALAAAAAABAAEAAAIBRAA7\" data-src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Brooke-Cagle-Unsplash.png\" alt=\"Photo: a group of people sat around a table having a conversation with coffees  and laptops \" class=\"wp-image-9047 lazyload\"\/><noscript><img decoding=\"async\" width=\"790\" height=\"526\" src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Brooke-Cagle-Unsplash.png\" alt=\"Photo: a group of people sat around a table having a conversation with coffees  and laptops \" class=\"wp-image-9047 lazyload\" srcset=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Brooke-Cagle-Unsplash.png 790w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Brooke-Cagle-Unsplash-300x200.png 300w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Brooke-Cagle-Unsplash-768x511.png 768w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Brooke-Cagle-Unsplash-18x12.png 18w\" sizes=\"(max-width: 790px) 100vw, 790px\" \/><\/noscript><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Credyd y ffotograff: Brooke Cagle ar <a href=\"https:\/\/unsplash.com\/@brookecagle\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Unsplash<\/a><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Sefydlu diben a nodau: cwrdd \u00e2 phobl yn y man ble maen nhw<\/h4>\n\n\n\n<p>Cyn neidio i mewn i logisteg gweithdy, mae\u2019n hollbwysig diffinio diben y digwyddiad, a\u2019i amcanion, yn glir. Mae\u2019n hanfodol deall man cychwyn y cyfranogwyr. Rhaid teilwra\u2019r gweithdy ar gyfer eu hanghenion, eu diddordebau a\u2019u profiadau. Mae bod yn gynhwysol yn chwalu unrhyw rwystrau a deimlir ac yn grymuso cyfranogwyr trwy gydnabod eu perthnasedd a\u2019u p\u0175er yn y broses.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dewis yn wybodus yn bwysig wrth ymgysylltu. Rhowch y wybodaeth y mae ei hangen ar y cyfranogwyr i wneud penderfyniadau gwybodus. Cofiwch eu hannog i feddwl y tu hwnt i\u2019w profiadau arferol, er mwyn meithrin datblygiad newidiadau ystyrlon sy\u2019n trawsnewid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rheoli niferoedd: maint optimaidd grwpiau er mwyn rhyngweithio<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall nifer y cyfranogwyr mewn gweithdy gael effaith sylweddol ar ei effeithiolrwydd. Ar gyfer gweithdai wyneb-yn-wyneb, ystyriwch ffurfio grwpiau rhwng 4 a 10 unigolyn. Os oes mwy o gyfranogwyr na hyn, gallwch greu nifer o grwpiau a dynodi hwylusydd a rhywun i gymryd nodiadau ar gyfer pob gr\u0175p bach.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer gweithdai ar-lein, dylech anelu at rhwng 3 ac 8 cyfranogwr i bob gr\u0175p, er mwyn sicrhau bod modd cael trafodaeth gr\u0175p gynhyrchiol. Defnyddiwch ystafelloedd trafod gyda phob gr\u0175p er mwyn eu hannog i gyfrannu ac ymgysylltu\u2019n weithgar. Paratowch rhag ofn bod gormod o bobl yn cymryd rhan neu rhag ofn i rai dynnu allan, trwy gynllunio ar gyfer niferoedd mwy\/llai, a byddwch y barod i addasu ar y diwrnod os oes angen.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cynllunio amrywiaeth o weithgareddau: dull gweithredu difyr a chynhwysol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae llwyddiant gweithdy yn dibynnu ar ei allu i ymgysylltu \u00e2 chyfranogwyr trwy amrywiaeth o weithgareddau. Dechreuwch gyda chyfarwyddiadau clir a chasgliad, gan wahodd pobl i fuddsoddi eu hamser. Ceisiwch deilwra gweithgareddau at arddulliau dysgu gwahanol a sicrhewch hygyrchedd o ran iaith a chynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddyliwch am gyflymder y gweithdy a byddwch yn hyblyg pan fo\u2019r angen yn codi, er mwyn sicrhau trafodaethau cyfoethog sydd efallai\u2019n gofyn am fwy o amser. Cr\u00ebwch lif clir trwy rannu\u2019r gweithdy\u2019n adrannau, gyda rhywfaint o hyblygrwydd o ran amseru. Osgowch ddefnyddio iaith gymhleth neu derminoleg a allai ddieithrio cyfranogwyr o gefndiroedd gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cofnodi a dadansoddi: crisialu mewnwelediadau gwerthfawr<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n hanfodol eich bod yn cofnodi trafodaethau er mwyn eu dadansoddi\u2019n drwyadl a\u2019u dogfennu. Dynodwch rywun penodol i gymryd nodiadau ymhob trafodaeth er mwyn sicrhau eich bod yn cadw cofnod cynhwysfawr sy\u2019n cofnodi mwy na\u2019r hyn yr ydych eisiau ei glywed yn unig. Yn ogystal, cofnodwch wybodaeth ddemograffig er mwyn cael gwybodaeth am amrywiaeth y cyfranogwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth ddadansoddi data, defnyddiwch&nbsp;<a href=\"https:\/\/getthematic.com\/insights\/coding-qualitative-data\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">dechnegau codio \u00e2 llaw a them\u00e2u<\/a>&nbsp;er mwyn nodi\u2019r them\u00e2u craidd a\u2019r is-them\u00e2u sydd oddi tanynt, a\u2019u grwpio (e.e. efallai mai eich thema graidd fyddai trafnidiaeth gyhoeddus ac efallai mai\u2019ch is-them\u00e2u fyddai nad yw rhai yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd nad yw\u2019r amserau\u2019n addas iddynt, mae\u2019n rhy ddrud neu byddai\u2019n well ganddynt ddefnyddio\u2019u car). Bydd hyn yn galluogi\u2019r rheiny sy\u2019n darllen y data i ddeall beth yn union sy\u2019n gorfod newid\/beth yw\u2019r materion.<\/p>\n\n\n\n<p>Peidiwch \u00e2 dibynnu\u2019n llwyr ar foddhad a dewisiadau fel them\u00e2u craidd, oherwydd efallai na fyddant yn rhoi gwybodaeth fanwl ar gyfer gweithgarwch y dyfodol (e.e. os yw pobl yn nodi nad ydynt yn hoffi rhywbeth, nid oes cyfle clir i fynegi sut y  gallai pethau edrych yn wahanol neu beth sy\u2019n gorfod newid). Mae\u2019n ymwneud mwy ag edrych ar y newidiadau a\u2019r materion y mae pobl yn eu codi, yn hytrach na pha mor fodlon\/anfodlon y maen nhw am rywbeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cynhwysion hanfodol ar gyfer gweithdai: ffactorau i sicrhau llwyddiant<\/h4>\n\n\n\n<p>Y tu hwnt i strwythur a chynnwys y gweithdy, mae elfennau penodol yn cyfrannu at ei lwyddiant:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Lluniaeth: mae darparu lluniaeth yn creu amgylchedd mwy hamddenol a chroesawgar i gyfranogwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Lleoliad hygyrch: dewiswch leoliad sy\u2019n hygyrch ac yn hwylus i\u2019r gynulleidfa darged, er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl \u00e2 phosibl yn bresennol.<\/li>\n\n\n\n<li>Naws anffurfiol: osgowch leoliad rhy ffurfiol sy\u2019n gallu dychryn cyfranogwyr. Cr\u00ebwch naws sy\u2019n annog cyfathrebu a chyfranogiad agored.<\/li>\n\n\n\n<li>Nodau ac amcanion clir: sicrhewch fod nodau ac amcanion y gweithdy yn cael eu cyfathrebu\u2019n glir i bob cyfranogwr.<\/li>\n\n\n\n<li>T\u00eem cyflawni sy\u2019n dangos diddordeb: dylai\u2019r hwyluswyr ddangos gwir ddiddordeb yn niben y gweithdy ac ymrwymiad iddo, a dylai fod yn barod i weithredu ar sail y canlyniadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Paratoi: ewch drwy\u2019r gweithdy\u2019n drwyadl cyn y digwyddiad go-iawn, er mwyn rhagweld unrhyw faterion a allai godi a rhoi sylw iddynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhywun i gadw nodiadau ar wah\u00e2n i\u2019r hwylusydd: dylai\u2019r hwylusydd fod yn canolbwyntio ar arwain trafodaethau, tra bod rhywun ar wah\u00e2n yn cymryd nodiadau, er mwyn sicrhau bod y gweithdy\u2019n cael ei ddogfennu\u2019n gynhwysfawr.<\/li>\n\n\n\n<li>Mecanwaith adborth: sefydlwch system glir er mwyn casglu adborth a rhoi adborth i gyfranogwyr, gan ddangos ymrwymiad i wella\u2019n barhaus.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Er mwyn trefnu gweithdy llwyddiannus, mae gofyn cynllunio\u2019n ofalus, sicrhau cynhwysiant a rhoi sylw i fanylder. Trwy sefydlu amcanion clir, rheoli maint grwpiau yn effeithiol, cynllunio amrywiaeth o weithgareddau a chofnodi mewnwelediadau gwerthfawr, gallwch greu gweithdy sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 chyfranogwyr, yn meithrin cydweithio, ac yn sicrhau canlyniadau ystyrlon. Cofiwch ystyried yr elfennau hanfodol sy\u2019n cyfrannu at brofiad cadarnhaol o\u2019r gweithdy, a byddwch yn barod i addasu ac i fireinio eich dull gweithredu ar sail adborth y cyfranogwyr. Trwy feddwl am y pethau hyn, byddwch yn si\u0175r o gynnal gweithdy sy\u2019n cael effaith gadarnhaol ac yn gyrru newid cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae\u2019r blog hwn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn rhan o gyfres Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar ar gyfer Byrddau Partneriaeth Cyhoeddus o fewn Prosiect Dewi. Cynlluniwyd yr is-rhwydwaith hwn i annog pobl sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i rannu arfer da ac i gynorthwyo gyda\u2019u heriau ei gilydd, a\u2019u cefnogi i wneud hynny. Cysylltwch os hoffech chi gymryd rhan: <a href=\"mailto:dataprotection@copronet.wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">helo@copronet.cymru<\/a>.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Workshops are powerful tools for fostering engagement, promoting collaboration, and generating innovative ideas. However, organising a successful workshop requires careful planning and thoughtful execution. In this blog, we&#8217;ll explore some essential considerations when putting together a workshop that not only achieves its objectives but also ensures a positive and impactful experience for participants. Establishing purpose&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/how-to-design-an-effective-workshop-considerations-for-success\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Sut i ddylunio gweithdy effeithiol: ystyriaethau er mwyn llwyddo<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-8678","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-project-dewi-psbs"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8678","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8678"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8678\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8678"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8678"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8678"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}