{"id":8646,"date":"2023-07-31T15:01:18","date_gmt":"2023-07-31T14:01:18","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=8646"},"modified":"2023-11-12T22:40:14","modified_gmt":"2023-11-12T22:40:14","slug":"amplifying-young-voices-empowering-the-youth-of-wales-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/amplifying-young-voices-empowering-the-youth-of-wales-2\/","title":{"rendered":"Chwyddo lleisiau ifainc: Grymuso ieuenctid Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mewn sesiwn ddiweddar gan y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar, aethom ati i archwilio arwyddoc\u00e2d clywed lleisiau pobl ifanc yng Nghymru. Mae cydnabod gwerth a photensial unigolion ifainc yn hanfodol er mwyn cynnal eu hawliau a hefyd er mwyn meithrin cymdeithas sy\u2019n fwy cynhwysol ac yn meddwl yn flaengar. Fodd bynnag, mae yna rwystrau a heriau o hyd, sy\u2019n atal eu lleisiau rhag cael eu clywed yn ddigonol. Mae\u2019r blog hwn yn cloddio i bwysigrwydd gwerthfawrogi pobl ifanc, yr elfennau sy\u2019n eu rhwystro rhag cymryd rhan, a rhai o\u2019r camau y gallwn eu cymryd i chwyddo\u2019u lleisiau ac i greu newid ystyrlon.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"data:image\/gif;base64,R0lGODlhAQABAIAAAAAAAP\/\/\/yH5BAEAAAAALAAAAAABAAEAAAIBRAA7\" data-src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Photo-credit-Hannah-Bushing-on-Unsplash.png\" alt=\"Photo: a group of people have put all their hands together in the middle of circle\" class=\"wp-image-9053 lazyload\"\/><noscript><img decoding=\"async\" width=\"793\" height=\"527\" src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Photo-credit-Hannah-Bushing-on-Unsplash.png\" alt=\"Photo: a group of people have put all their hands together in the middle of circle\" class=\"wp-image-9053 lazyload\" srcset=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Photo-credit-Hannah-Bushing-on-Unsplash.png 793w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Photo-credit-Hannah-Bushing-on-Unsplash-300x199.png 300w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Photo-credit-Hannah-Bushing-on-Unsplash-768x510.png 768w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Photo-credit-Hannah-Bushing-on-Unsplash-18x12.png 18w\" sizes=\"(max-width: 793px) 100vw, 793px\" \/><\/noscript><figcaption class=\"wp-element-caption\">Credyd y ffotograff: Hannah Bushing ar <a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/lmpuKSf2uQE\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Unsplash<\/a><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pwysigrwydd clywed lleisiau ifainc<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn anad dim, mae cydnabod pwysigrwydd clywed lleisiau pobl ifanc yn deillio o\u2019u hawliau sylfaenol. Mae gan bob unigolyn yr hawl i gael ei glywed a\u2019i barchu, ac yn yr un modd mae yna werth aruthrol i bersbectifau pobl ifanc. Trwy ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc ceir persbectifau ffres, syniadau unigryw a meddwl arloesol, ac mae\u2019r elfennau hyn i gyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynnydd cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, ein pobl ifanc fydd yn delio \u00e2 chanlyniadau\u2019r penderfyniadau a wneir heddiw. Mae eu cynnwys nhw mewn prosesau penderfynu yn sicrhau bod eu hanghenion, eu dyheadau, a\u2019u pryderon yn cael eu hystyried. Trwy drin pobl ifanc fel cymheiriaid a\u2019u cynnwys yn weithgar rydym yn creu cymdeithas sy\u2019n fwy teg a chynhwysol, ac mae hyn yn hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad ymhlith grwpiau oedran gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhwystrau rhag chwyddo lleisiau ifainc<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae un o\u2019r rhwystrau allweddol sy\u2019n ein hatal rhag chwyddo lleisiau pobl ifanc i\u2019w weld o fewn y systemau a ddyluniwyd i gyfathrebu. Oedolion yw ffocws llawer o systemau ac maent yn hepgor pobl ifanc ac, mewn rhai achosion, hyd yn oed yn hepgor adrannau mwy o\u2019r boblogaeth. Er mwyn rhoi sylw i hyn, rhaid i ni greu systemau cyfathrebu sy\u2019n gynhwysol, yn  hygyrch ac wedi eu dylunio i ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc ac i\u2019w grymuso.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ofn colli awdurdod a ph\u0175er dros bobl ifanc hefyd yn gallu rhwystro\u2019u cyfranogiad. Rhaid i arweinwyr a\u2019r rheiny sy\u2019n dod i benderfyniadau fod yn agored i adborth adeiladol a rhaid iddynt ddeall bod pobl ifanc yn gallu cynnig mewnwelediad gwerthfawr. Mae goresgyn yr ofn hwn a chofleidio persbectifau pobl ifanc yn gallu arwain at benderfyniadau mwy gwybodus ac effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhwystr arall yw dealltwriaeth wedi\u2019i llywio o\u2019r hyn y mae bod yn unigolyn ifanc yn ei olygu. Mae\u2019n hanfodol cydnabod yr amrywiaeth o fewn y boblogaeth o bobl ifanc a gwerthfawrogi eu profiadau a\u2019u cyd-destunau gwahanol. Trwy osgoi cyffredinoli a pheidio \u00e2 mynd ati mewn ffordd sydd wedi\u2019i llywio, gallwn adeiladu cysylltiadau cryfach a chyfoethogi ein cydymdrechion gyda phobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cydnabod gwerth pobl ifanc<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn cydnabod gwerth pobl ifanc, rhaid i ni eu trin fel unrhyw gr\u0175p arall, gan gydnabod eu hamrywiaeth a\u2019u hanghenion unigryw. Mae\u2019n hollbwysig ymgysylltu \u00e2 theuluoedd a rhieni, yn enwedig wrth weithio gyda phlant ifancach, oherwydd mae hyn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i\u2019w persbectifau a\u2019u profiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n hynod o bwysig ein bod yn symud ein ffocws i ffwrdd oddi wrth yr hyn yr ydym am ei gyflawni, ac yn gwrando go iawn ar bobl ifanc. Rhaid i ni ddylunio systemau a strategaethau ymgysylltu sy\u2019n blaenoriaethu deall eu lleisiau a\u2019u profiadau. Mae defnyddio dulliau creadigol fel chwarae, celf a gweithgareddau rhyngweithiol eraill yn gallu bod o gymorth i bontio\u2019r gagendor a meithrin cysylltiadau ystyrlon.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, mae\u2019n hanfodol dangos atebolrwydd. Mae angen i bobl ifanc ddeall sut y bydd eu cyfraniadau yn cael eu defnyddio a sut y byddant yn dylanwadu ar brosesau penderfynu. Mae cau\u2019r ddolen a rhoi adborth am ganlyniadau eu hymgyfraniad yn meithrin ymddiriedaeth ac yn eu grymuso i barhau i gymryd rhan.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Hyrwyddo lleisiau pobl ifanc: galwad i weithredu<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn hyrwyddo lleisiau pobl ifanc gellir cymryd sawl cam:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Mwy o gyllid: Dyrannu mwy o adnoddau i gefnogi ymgysylltiad dwfn a mentrau sy\u2019n canolbwyntio ar bobl ifanc.<\/li>\n\n\n\n<li>Newid systemig: Symud o ddulliau gweithredu tameidiog i sicrhau bod cynnwys lleisiau ifainc yn arfer safonol. Ailwampio systemau cyfathrebu fel eu bod yn fwy cynhwysol a hygyrch.<\/li>\n\n\n\n<li>Ehangu ymgysylltiad: Symud y tu hwnt i\u2019r dull traddodiadol o wrando ar leisiau ifainc, sy\u2019n canolbwyntio ar ysgolion. Sicrhau cynhwysiant trwy estyn allan at bob rhan o\u2019r boblogaeth ieuenctid, gan gynnwys y rheiny sydd efallai\u2019n llai llafar ond sydd \u00e2 phersbectifau yr un mor werthfawr.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau: Cynnwys pobl ifanc yn y broses o ddyrannu adnoddau a dylunio polis\u00efau sy\u2019n adlewyrchu eu persbectifau.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p><em>Mae\u2019r blog hwn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn rhan o gyfres Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar. Cysylltwch ag <a href=\"mailto:emma.davies@socialcare.wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">emma.davies@socialcare.wales<\/a> os oes gennych unrhyw gwestiynau. Gallwch ddal i fyny \u00e2\u2019r recordiad&nbsp;<a href=\"https:\/\/youtu.be\/_l_1dS7ILx0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma.<\/a>.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>In a recent Resourceful Communities Partnership session, we explored the significance of hearing the voices of young people in Wales. Recognising the value and potential of young individuals is crucial, not only for upholding their rights but also for fostering a more inclusive and forward-thinking society. However, barriers and challenges persist, preventing their voices from&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/amplifying-young-voices-empowering-the-youth-of-wales-2\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Chwyddo lleisiau ifainc: Grymuso ieuenctid Cymru<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[154],"tags":[],"class_list":["post-8646","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-resourceful-communities-partnership"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8646","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8646"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8646\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8646"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8646"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8646"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}