{"id":8619,"date":"2023-07-03T11:32:09","date_gmt":"2023-07-03T10:32:09","guid":{"rendered":"https:\/\/copronet.wales\/?p=8619"},"modified":"2023-11-12T22:40:47","modified_gmt":"2023-11-12T22:40:47","slug":"harnessing-the-power-of-a-theory-of-change-for-psbs","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/harnessing-the-power-of-a-theory-of-change-for-psbs\/","title":{"rendered":"Ffrwyno P\u0175er Theori Newid ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"data:image\/gif;base64,R0lGODlhAQABAIAAAAAAAP\/\/\/yH5BAEAAAAALAAAAAABAAEAAAIBRAA7\" data-src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/PSB-Theory-of-change.png\" alt=\"Event title: what is a theory of change and how might it be useful?\" class=\"wp-image-9055 lazyload\"\/><noscript><img decoding=\"async\" width=\"792\" height=\"394\" src=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/PSB-Theory-of-change.png\" alt=\"Event title: what is a theory of change and how might it be useful?\" class=\"wp-image-9055 lazyload\" srcset=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/PSB-Theory-of-change.png 792w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/PSB-Theory-of-change-300x149.png 300w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/PSB-Theory-of-change-768x382.png 768w, https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/PSB-Theory-of-change-18x9.png 18w\" sizes=\"(max-width: 792px) 100vw, 792px\" \/><\/noscript><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae mesur effaith yn agwedd sylfaenol ar lwyddiant sefydliad, ond gall fod yn heriol lleisio\u2019r effaith a fwriedir mewn cyd-destunau gwahanol, a\u2019i chyfathrebu. Er mwyn goresgyn y rhwystr hwn, mae llawer o sefydliadau\u2019n dibynnu ar offeryn gwerthfawr o\u2019r enw Theori Newid. Felly, beth yw Theori Newid, a sut y gall fod yn ddefnyddiol i yrru canlyniadau cadarnhaol?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diffinio Theori Newid<\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth wraidd Theori Newid mae yna broses sy\u2019n gymorth i sefydliadau leisio\u2019r gwahaniaeth y maent yn bwriadu ei wneud neu\u2019r effaith y maent yn bwriadu ei chael, a\u2019u cyfathrebu. Mae\u2019n golygu dull gweithredu strwythuredig a systematig i fynd ati i ddeall materion a pherthnasoedd cymhleth. Trwy gydweithio a thrafod, mae\u2019n galluogi rhanddeiliaid niferus i gytuno ar stori am gyd-effaith, a chymryd perchnogaeth dros naratif y sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Buddion Theori Newid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Theori Newid yn cynnig nifer o fuddion gwerthfawr i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Eglurder a Ffocws: Trwy greu allbwn penodol a syml, mae Theori Newid yn cysylltu\u2019r problemau y mae sefydliad yn ceisio rhoi sylw iddynt gyda\u2019r effaith ddymunol y mae\u2019n ceisio\u2019i chael. Mae\u2019n fap cyffyrddadwy sy\u2019n lleisio dealltwriaeth unedig yn glir o fewn y sefydliad, gan sicrhau bod modd mesur yr effaith, ei gwerthuso a\u2019i chyfathrebu yn effeithiol, a hynny\u2019n fewnol ac yn allanol.<\/li>\n\n\n\n<li>Dull Gweithredu ar sail Tystiolaeth: Rhaid i Theori Newid sicrhau bod tystiolaeth a mesurau yn cael eu sefydlu yn y broses. Ar bob cam, rhaid i sefydliadau deimlo\u2019n hyderus yn eu gallu i gasglu data, profi, a gwerthuso eu theori. Mae\u2019r broses iterus hon o theori, allbwn a phrofi yn y byd go iawn yn galluogi sefydliadau i arbrofi, dysgu a gwella\u2019u strategaethau.<\/li>\n\n\n\n<li>Persbectif Holistaidd: Mae Theori Newid yn gymorth i sefydliadau leisio\u2019r effaith ar draws y sefydliad cyfan neu\u2019r rhaglen gyfan, waeth beth yw\u2019r prosiectau unigol, pwy yw'r cyllidwyr a phwy yw\u2019r buddiolwyr. Mae\u2019n canolbwyntio ar flociau adeiladu allweddol, sef rheoli effaith, canlyniadau a rheoli perfformiad, gan hyrwyddo cysondeb a ffyrdd systematig o gyflawni\u2019r canlyniadau dymunol.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Deall effaith<\/h3>\n\n\n\n<p>Yng nghyd-destun Theori Newid mae effaith yn cyfeirio at y newid neu\u2019r gwahaniaeth y mae sefydliad neu raglen yn bwriadu eu gwneud yn y byd. Mae ganddi\u2019r rhinweddau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Cadarnhaol: Mae\u2019r effaith yn cyfeirio at weledigaeth sefydliad o ran yr hyn y mae eisiau ei weld yn digwydd. Mae\u2019n cydnabod bod yna effeithiau negyddol ac anfwriadol, ond mae\u2019r ffocws yn dal i fod ar y newid cadarnhaol dymunol.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyrlon a Phwysig: Mae\u2019r effaith yn rhoi sylw i broblemau cymdeithasol cydnabyddedig, gyda\u2019r nod o sicrhau newid er enghraifft llai o droseddu, gwella cyrhaeddiad addysgol, gwella iechyd, a gwella ansawdd bywyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhaus: Mae\u2019r effaith yn parhau hyd yn oed ar \u00f4l i\u2019r ymyriad ddod i ben. Er enghraifft, effaith gwasanaeth rhoi\u2019r gorau i smygu yw unigolion yn rhoi\u2019r gorau i smygu yn y tymor hir.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflawni gan Unigolion a Chymunedau: Nid yw sefydliadau\u2019n gwneud pobl yn iach neu\u2019n addysgedig yn uniongyrchol; mae unigolion a chymunedau yn cyflawni\u2019r canlyniadau hyn drostyn nhw\u2019u hunain. R\u00f4l sefydliadau yw darparu adnoddau (sef canlyniadau) sy\u2019n grymuso unigolion i gyflawni eu nodau a chreu effaith.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Mae Theori Newid yn offeryn pwerus sy\u2019n galluogi sefydliadau i leisio\u2019r effaith a fwriedir ganddynt yn effeithiol a\u2019i chyfathrebu\u2019n effeithiol. Trwy arwain y broses o ddeall materion cymhleth, meithrin cydweithio, a sicrhau dulliau gweithredu sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, mae\u2019n grymuso sefydliadau i fesur, gwerthuso a gwella\u2019u strategaethau. Trwy Theori Newid, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gallu cydweithio i wneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaus yng Nghymru, gan greu effaith gadarnhaol ar unigolion a chymunedau y maent yn eu gwasanaethu.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae\u2019r blog hwn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn rhan o gyfres Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar ar gyfer Byrddau Partneriaeth Cyhoeddus o fewn Prosiect Dewi. Cynlluniwyd yr is-rhwydwaith hwn i annog pobl sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i rannu arfer da ac i gynorthwyo gyda\u2019u heriau ei gilydd, a\u2019u cefnogi i wneud hynny. Cysylltwch os hoffech chi gymryd rhan: <a href=\"mailto:dataprotection@copronet.wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">helo@copronet.cymru<\/a>.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dolenni defnyddiol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/youtu.be\/PQofaqpAZbc\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwylio\u2019r sesiwn Rhannu Dysgu eto<\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/CoProNetworkWales-ToC-session-21stJune2023.pptx.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Sleidiau Madeleine<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/copronet.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/CoProNetwork-for-Wales-Theory-of-Change-Workshop.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dogfen ymarferion y sesiwn<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.dataorchard.org.uk\/news\/creating-a-new-theory-for-change\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Creu theori newydd AR GYFER newid<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.thinknpc.org\/resource-hub\/ten-steps\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Theori newid mewn deg cam<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Impact measurement is a fundamental aspect of organisational success, but it can be challenging to articulate and communicate the intended impact in different contexts. To overcome this hurdle, many organisations rely on a valuable tool called a Theory of Change. So, what is a Theory of Change, and how can it be useful in driving&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/harnessing-the-power-of-a-theory-of-change-for-psbs\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Ffrwyno P\u0175er Theori Newid ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus<\/span><\/a><\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-8619","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-project-dewi-psbs"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8619","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8619"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8619\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8619"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8619"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/copronet.gluestudio.xyz\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8619"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}