Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar

Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn aelod y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar, gallwch ddarllen mwy am y bartneriaeth isod.


Pwy ydym ni

Fforwm cenedlaethol ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n helpu i ddatblygu a hyrwyddo gweithgareddau a chamau gweithredu lleol sy’n gwella lles a #PŵerCymunedol ledled Cymru.

Logo: Resourceful Communities Partnership

Cefndir

Dechreuodd y Bartneriaeth fel grŵp cyfeirio o bartneriaid allanol yn cynghori Gofal Cymdeithasol Cymru ar ei waith ar wreiddio gwytnwch cymunedol.
Ehangodd yn ystod y pandemig, gan ymgysylltu â phobl o ystod o sefydliadau â chylchoedd gwaith mor eang ag iechyd a gofal cymdeithasol, cyrff arolygu, y trydydd sector a’r sector academaidd.

Amcanion

  • Defnyddio gwybodaeth ac ymarfer aelodau i ddylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gan feithrin gallu a sgiliau o fewn cymunedau i gynyddu a gwella eu dyfeisgarwch a hyrwyddo pŵer Cymunedol.
  • Dod â diddordeb, ymchwil a phrofiad ymarfer ynghyd i gyflymu arfer da mewn camau / gweithgareddau cymunedol sy’n hyrwyddo dyfeisgarwch cymunedol, wedi’u hategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
  • Hysbysu a hyrwyddo’r sylfaen dystiolaeth ac ymchwil ar gyfer camau / gweithgareddau sy’n cefnogi grymuso cymunedau.

Cyflawniadau

  • Cynhelir cyfarfodydd partneriaeth bob chwarter ac maent yn cynnwys ystod o ddiweddariadau ac arferion cenedlaethol gan gynnwys“Canolbwynt y Dyfodol” Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a chefnogaeth ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Diweddariad Polisi Cymunedol Llywodraeth Cymru; proses ddemocrataidd sy’n hyrwyddo ymgysylltiad dinesig; rôl cymunedau a thechnoleg i liniaru unigrwydd yn ystod pandemig COVID 19, presgripsiynu cymdeithasol, gwirfoddoli yng Nghymru ac ymchwil i gamau gweithredu cymunedau cynaliadwy.
  • Digwyddiadau Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar
  • Mae’r Bartneriaeth hefyd wedi comisiynu, ac ar hyn o bryd yn treialu, Fframwaith ar gyfer Dyfeisgarwch Cymunedol yn Seiliedig ar Le, pecyn cymorth sy’n arwain cyrff cyhoeddus ar weithio’n effeithiol gydag actorion cymunedol: 
  • Gweithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad tystiolaeth o rôl perthnasoedd a chydweithio wrth gefnogi camau gweithredu cymunedol i wella lles.  Mae’r partneriaid sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn yn cynnwys CGGC, Cwmpas, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, Prifysgol Abertawe, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, Gofal Cymdeithasol Cymru, Is-adran Cymunedau LlC a CLlLC.

Cysylltu

Os hoffech wybod am gyfrannu eich astudiaethau achos neu fod yn aelod o’r Bartneriaeth, cysylltwch ag [email protected] neu ffeindiwch ni ar X/Twitter @ResourcefulCym