Rydyn ni’n cynnig cyrsiau hyfforddiant ar-lein am gyd-gynhyrchu ac rydyn ni’n datblygu rhai newydd ar gyfer sgiliau cysylltiedig, felly dewch yn ôl – bydd mwy yma yn y man! (Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am gyrsiau newydd yn y cylchlythyr.)
Mae cynnwys ein cyrsiau yn addas i arddulliau dysgu gwahanol; maen nhw ar ein llwyfan hygyrch a chyfeillgar, sy’n addas i raglenni darllen sgrin. Rhoddir gostyngiadau i aelodau a hyrwyddwyr Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru ac i aelodau Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru sy’n ddinasyddion neu’n ofalwyr di-dâl, a gallwch dalu am unrhyw gwrs trwy anfoneb.

Hanfodion cyd-gynhyrchu
(self-directed, 3 hours)
I bwy mae’r cwrs?
I bobl sydd eisiau meithrin neu gryfhau eu dealltwriaeth o gyd-gynhyrchu: gallai hyn fod yn gysyniad newydd yr ydych am ddysgu amdano, neu efallai y byddwch chi’n gyfarwydd â’r cysyniad ond eisiau ei esbonio i gydweithwyr neu bobl eraill.
Beth mae’r cwrs yn ei gynnwys?
Y syniadau a’r modelau wrth wraidd cyd-gynhyrchu:
- Y diffiniad a’r 5 gwerth
- Y sbectrwm ymgysylltu
- Lefelau cyd-gynhyrchu
- Theori cymhlygrwydd
- Cynhwysiant a phŵer
- Y gorchymyn i gyd-gynhyrchu
Pa ddeunyddiau sydd ar gael?
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ac iaith gadarn er mwyn siarad am gyd-gynhyrchu, trwy:
- Hunanastudiaeth (fideos ar-lein, cwisiau, a darllen pellach)
- Mynediad at ein cymuned ddysgu cyd-gynhyrchu ar-lein
Beth yw hyd y cwrs?
Mae gofyn clustnodi tua 3 - 4 awr o amser astudio i weithio trwy’r fideos a’r ymarferion.
(Gallwch dreulio mwy o amser yn twrio i’r holl ddarllen pellach yn fwy manwl.)
Faint yw’r gost?
- Y gost os nad ydych yn aelod: £50+TAW (£60)
- Y gost i aelodau Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru (25% o ostyngiad oddi ar y pris llawn): £37.50+TAW (£45)
Defnyddiwch y cod gostyngiad yn eich negeseuon e-bost i aelodau. - Y gost i hyrwyddwyr sydd ag aelodaeth tîm gyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru (35% o ostyngiad oddi ar y pris llawn): £32.50+TAW (£39)
Defnyddiwch y cod gostyngiad yn eich negeseuon e-bost i hyrwyddwyr. - Cost i ddinasyddion a gofalwyr di-dâl sy’n aelodau o Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru nad ydynt yn cael eu cefnogi’n ariannol i gymryd rhan (75% o ostyngiad oddi ar y pris llawn): £12.50+TAW (£15)
Anfonwch neges at [email protected] i gael y cod gostyngiad. - Os oes angen talu trwy anfoneb arnoch, rhowch ychydig o fanylion ar y ffurflen hon ac fe fyddwn ni mewn cysylltiad i gwblhau eich cofrestriad.
Pryd mae’r cwrs yn dechrau?
Gallwch gofrestru ar gyfer y cwrs hwn a dechrau dysgu ar unrhyw adeg. Cliciwch ar y botwm er mwyn ei brynu a dechrau arno.

Cyd-gynhyrchu a Chi
(cwrs 12 wythnos)
I bwy mae’r cwrs?
I bobl lle bynnag y maen nhw ar eu siwrnai gyd-gynhyrchu: os ydych chi eisiau treulio amser yn myfyrio’n ddwfn, gyda chymheiriaid, ar le cyd-gynhyrchu yn eich gwaith.
Beth mae’r cwrs yn ei gynnwys?
Sut i roi dull cyd-gynhyrchu ar waith yn eich cyd-destun chi:
- Ymddygiadau a chamau gweithredu er mwyn rhoi gwerthoedd cyd-gynhyrchu ar waith
- Enghreifftiau gan ymarferwyr eraill o ystod o sectorau
- Myfyrdod strwythuredig ar eich sefyllfa chi, sy’n cyfrannu at eich aseiniad
Pa ddeunyddiau sydd ar gael?
Byddwch yn atgyfnerthu eich ymarfer ac yn ei ddatblygu ymhellach, trwy:
- Hunanastudiaeth (podlediadau a darllen pellach)
- Seminarau grŵp wythnosol (wedi’u recordio er mwyn i chi ddal i fyny neu eu gwylio eto)
- Opsiwn o gael sesiynau un-i-un wythnosol gyda’r tiwtoriaid
- Aseiniad: cynllun gweithredu er mwyn datblygu eich prosiect cyd-gynhyrchu eich hun
Beth yw hyd y cwrs?
Mae’r cwrs yn rhedeg dros gyfnod o 12 wythnos:
- 8 wythnos lle cewch fynediad at y deunyddiau astudio (tua 2 i 3 awr yr wythnos) a’r sesiynau byw (1 awr yr wythnos + yr opsiwn o gael 30 munud un-i-un)
- 4 wythnos i gwblhau’ch aseiniad, sy’n cymryd y cyfan yr ydych wedi ei ddysgu ac yn ei grynhoi mewn cynllun gweithredu ymarferol
Dyfernir tystysgrif i chi am gwblhau’r cwrs wedi i chi gyflwyno aseiniad sy’n dangos eich dysgu a’ch datblygiad ac wedi iddo gael ei farcio’n llwyddiannus.
Faint yw’r gost?
- Y gost os nad ydych yn aelod: £250+TAW (£300)
- Y gost i aelodau Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru (25% o ostyngiad oddi ar y pris llawn): £187.50+TAW (£225)
Defnyddiwch y cod gostyngiad yn eich negeseuon e-bost i aelodau. - Y gost i hyrwyddwyr sydd ag aelodaeth tîm gyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru (35% o ostyngiad oddi ar y pris llawn): £162.50+TAW (£195)
Defnyddiwch y cod gostyngiad yn eich negeseuon e-bost i hyrwyddwyr. - Cost i ddinasyddion a gofalwyr di-dâl sy’n aelodau o Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru nad ydynt yn cael eu cefnogi’n ariannol i gymryd rhan (75% o ostyngiad oddi ar y pris llawn): £62.50+VAT (£75)
Anfonwch neges at [email protected] i gael y cod gostyngiad. - Os oes angen talu trwy anfoneb arnoch, rhowch ychydig o fanylion ar y ffurflen hon ac fe fyddwn ni mewn cysylltiad i gwblhau eich cofrestriad.
Pryd mae’r cwrs yn dechrau?
We run this course 3 times per year; the next cohort starts on Monday 12th January 2026.
Live online seminars will run on Tuesdays at 10-11am for 8 weeks, followed by four weeks to complete your assignment.
Dewch i gwrdd â’n tiwtoriaid!
Treena Davies

David Zilkha
