Mae gan eich sefydliad ymrwymiad strategol a gweithredol i gyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Rydych yn awyddus i ddatblygu eich tîm a’ch arferion sefydliadol.
Rydych yn awyddus i ddatblygu eich tîm a’ch arferion sefydliadol.
Dyma'r fargen!
Manteision aelodaeth i dimau
- Phecyn croeso sy’n cynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol
- Cyswllt blynyddol i weld beth yw’ch anghenion cyd-gynhyrchu o ran nodau, dyheadau a datblygiad
- Hyfforddiant “hyrwyddwyr cyd-gynhyrchu” i’w harfogi â’r adnoddau a’r sgiliau i rannu cyd-gynhyrchu ac i gefnogi dysgu ac arfer eu cydweithwyr
- Mynediad cynnar a gostyngiadau ar ddigwyddiadau â thocynnau, cyrsiau e-ddysgu a'n Cynhadledd Cyd-gynhyrchu Genedlaethol
- “Clinigau cyd-gynhyrchu” chwarterol, sef digwyddiadau anffurfiol i ddysgu gan gyfoedion, lle gallwch ddod at eich gilydd i archwilio glo mân cyd-gynhyrchu – rhywle i drafod profiadau a’u harchwilio ac i siarad am syniadau newydd a phroblemau dyrys
- Bathodynnau digidol ar lefelau gwahanol ar gyfer eich gwefan a llofnodion e-bost, i ddangos ymrwymiad eich sefydliad i gyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad

"Fel aelod, ni fedrwn ganmol Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru ddigon - maen nhw wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer ein hyrwyddwyr cyd-gynhyrchu, yn darparu cyngor ymgynghorol i’n grŵp llywio, ac wrth gwrs wedi trefnu digwyddiadau rhwydweithio a rhannu gwybodaeth ragorol." - Graham Findlay, Arweinydd Cydgynhyrchu, Scope
Sut mae’n gweithio?
Chi sy’n dewis faint o hyrwyddwyr i’w henwebu, i eirioli ar ran a chefnogi cydweithwyr ym maes cyd-gynhyrchu.
Seilir eich ffioedd aelodaeth ar nifer yr hyrwyddwyr.
I bwy mae’r cwrs?
Gallwch ymaelodi fel tîm, fel adran neu fel sefydliad cyfan. Gallwch ddod o’r sectorau statudol, dielw, neu academaidd.
Nid oes rhaid ichi gael eich lleoli yng Nghymru i elwa o fod yn rhan o’r gymuned ymarfer! Os nad ydych yn gweithio yng nghyd-destun polisi datganoledig Cymru, bydd hyn yn defnyddiol iawn os oes gan eich sefydliad ymrwymiad strategol a/neu bolisi sefydledig i gyd-gynhyrchu.
Membership pricing 2025-26
| Hyrwyddwyr | Sector y Llywodraeth a’r sector statudol | Sector mawr a’r trydydd sector cenedlaethol | Sector rhanbarthol a’r trydydd sector canolig ei maint | Sector lleol, cymunedol a’r trydydd sector bach |
|---|---|---|---|---|
| 1 - 5 | £799 + VAT (£958.80) | £532 + VAT (£638.40) | £266 + VAT (£319.20) | £133 + VAT (£159.60) |
| 6 - 10 | £1,597 + VAT (£1,916.40) | £1,065 + VAT (£1,278) | £532 + VAT (£638.40) | £266 + VAT (£319.20) |
| 11 - 20 | £3,194 + VAT (£3,832.80) | £2,130 + VAT (£2,556) | £1,065 + VAT (£1,278) | £532 + VAT (£638.40) |
| 21 neu fwy | Pwrpasol (£159+VAT pa pp) | Pwrpasol (£106+VAT pa pp) | Pwrpasol (£53+VAT pa pp) | Pwrpasol (£26+VAT pa pp) |
Mae’r ffioedd aelodaeth ar gyfer timau yn ein galluogi i gynnal a chefnogi’r rhwydwaith bywiog hwn o bobl, grwpiau, timau a sefydliadau sy’n troi cyd-gynhyrchu trawsnewidiol yn realiti yng Nghymru. Ac fel sefydliad sy’n ymaelodi, byddwch yn enwebu eich hyrwyddwyr cyd-gynhyrchu, sy’n gallu bod yn aelodau staff, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, defnyddwyr gwasanaeth a/neu bobl sy’n gweithio i (neu’n gweithio’n agos gydag) eich sefydliad. Mae’r Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu yn eu helpu i wella eu harferion cyd-gynhyrchu, ei ddatblygu ymhellach ar draws eich timau, cynyddu eich effaith fel sefydliad, a datblygu eich nodau o safbwynt cyd-gynhyrchu strategol ac ymgyfraniad.
Y print mân:
● Aelodaeth flynyddol yw hon sy’n rhedeg o 1af Ebrill hyd at 31ain Mawrth.
● Mae aelodaeth oes ar gael ar gyfer prosiectau: pro rata o ran hyd eich prosiect tymor penodol mewn misoedd llawn, hyd at uchafswm o 5 mlynedd.
● Membership is paid by invoice.
Os nad yw’r Ffurflen Google yn agor, cysylltwch â ni ar: [email protected] a gallwn e-bostio copi mewn Word atoch i’w llenwi a’i dychwelyd trwy ebost. Cysylltwch â ni os oes unrhyw gwestiynau neu broblemau eraill!
































