Mae gennym dros 1000 o aelodau o sectorau amrywiol, ar draws Cymru gyfan (a rhai’n bellach i ffwrdd na hynny!) sy’n dod ynghyd i hyrwyddo agenda cyd-gynhyrchu.
Mae aelodaeth ar agor i bawb sydd â diddordeb mewn cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad mewn gwasanaethau cyhoeddus, boed yn ddinesydd neu wirfoddolwr, yn weithiwr proffesiynol gyda gwasanaeth cyhoeddus neu yn y trydydd sector ar unrhyw lefel, yn academydd neu ymchwilydd, yn swyddog ac unigolyn sy’n gyfrifol am lunio polisi gyda llywodraeth leol neu genedlaethol…..ac wrth gwrs unrhyw gyfuniad o’r uchod!

Mae gennych ddiddordeb personol neu broffesiynol mewn cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad. Rydych yn awyddus i ymuno â’r gymuned ymarfer, a chysylltu â phobl eraill sydd â gwerthoedd tebyg.
Mae’r aelodaeth ar gyfer unigolyn yn rhad ac am ddim am byth: gall unrhyw un sydd â diddordeb ymaelodi heb unrhyw gyfyngiadau o ran cost neu ganiatâd.

Mae gan eich sefydliad ymrwymiad strategol a gweithredol i gyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Rydych yn awyddus i ddatblygu eich tîm a’ch arferion sefydliadol.
Mae’r ffioedd ymaelodi ar gyfer timau’n ein galluogi i fod yn gynaliadwy, a chynnig cymorth ychwanegol ar gyfer eich hyrwyddwyr cyd-gynhyrchu.

"Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru wedi bod yn hollbwysig o ran siapio a herio ein dealltwriaeth fel sefydliad, o’r hyn a olygir go iawn wrth rannu grym a meithrin ffydd gyda phobl sydd ag anabledd dysgu, a’u teuluoedd." - Sian Davies, Mencap Cymru, Pennaeth Effaith a Dysgu