Mynd i'r cynnwys

Cyfle i fod yn Rhan o’r Bwrlwm! Dewch i ymuno â’n Bwrdd heddiw!

Cartoon image of 6 diverse people sitting around a table together commenting on and writing on a large piece of paper, designing together.

Cymerwch y cam nesaf at arwain y mudiad dros gyd-gynhyrchu yng Nghymru ac ymunwch â’n Bwrdd. 
Rydyn ni’n recriwtio cadeirydd ac aelodau newydd ar gyfer y Bwrdd.

Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddgar sydd eisiau dylanwadu ar waith Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru ar yr adeg gyffrous hon o dyfu a datblygu.

We are a small but dynamic social enterprise driving forward co-production practices in Wales. As a board member you will help us work towards  our vision of a fairer and more sustainable Wales where everyone has a voice that is heard/listened to. We want to strengthen and extend our board to help us stay innovative and grow our movement across communities. 

Ein nodau yw:

  • datblygu arfer da ar draws sectorau a ledled Cymru,
  • dylanwadu a chefnogi llunwyr polisi a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lunio cyd-destun cadarnhaol ar gyfer y gwaith hwn, a
  • sicrhau newid diwylliannol cadarnhaol yn ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau.

Mae ein bwrdd o gyfarwyddwyr anweithredol yn chwarae rhan hanfodol trwy:

  • oruchwylio rhwymedigaethau cyfreithiol y cwmni;
  • sicrhau ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau yn unol â'n cyfansoddiad;
  • sicrhau ein bod yn drwyadl yn ariannol ac yn gynaliadwy, a rheoli risgiau;
  • cynnal ein gwerthoedd a'n safonau uchel;
  • sicrhau ein bod yn gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol;
  • cadw ffocws ar ein cenhadaeth a'n hamcanion; 
  • cefnogi ein datblygiad strategol;
  • gyrru datblygiad, twf a dysgu, a gwelliant; a
  • chefnogi'r PSG i wneud yr uchod.

Ar gyfer swyddi aelod o'r Bwrdd mae angen ymrwymiad o 3 - 4 diwrnod y flwyddyn (6 - 8 ar gyfer y cadeirydd). Mae’r swydd am gyfnod o dair blynedd, a gellir adnewyddu'r cyfnod ar ôl hyn. Nid oes tâl am y rôl, Mae'n wirfoddol, ac ad-delir treuliau (gan gynnwys costau gofal).

Os ydych yn ystyried ymuno â'n bwrdd cyfarwyddwyr, mae'r ddogfen hon yn esbonio rôl aelodau'r bwrdd, beth / pwy yr ydym yn chwilio amdanynt, a sut i ymgeisio. 

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau12.00 hanner dydd, ddydd Llun 14 Hydref 2024

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *