Ym maes ymgysylltu â’r gymuned, mae’r iaith yr ydyn ni’n ei defnyddio yn bwysig. Yn aml, mae termau fel "anodd eu cyrraedd" a "nas clywir yn aml" yn taro’r bai ar y cymunedau eu hunain, gan esgeuluso’r rhwystrau systemig y maen nhw’n eu hwynebu. Yn hytrach na chymryd nad oes diddordeb, mae’n hanfodol cwestiynu hygyrchedd sefydliadau a deall yr heriau amlochrog y mae unigolion yn dod ar eu traws, gan gynnwys ffactorau cymdeithasol ac economaidd.
Mae yna heriau unigryw wrth ymgysylltu â chymunedau sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd, o rwystrau iaith i bryderon diwylliannol. Er enghraifft, efallai bod rhai cymunedau penodol ddim yn ymddiried yn sefydliadau oherwydd profiadau yn y gorffennol. Ar ben hyn, mae llai o gyllid cyhoeddus yn arwain at ddulliau ymgysylltu cyffredinol, ac yn esgeuluso anghenion cymunedau amrywiol sy’n aml yn wahanol eunaws. Mae deall naws y mannau y mae cymunedau yn byw ac yn cymdeithasu ynddynt, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig, yn hanfodol er mwyn ymgysylltu’n effeithiol.
Yn aml, mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae prinder cyd-adeiladu tystiolaeth yn gallu rhwystro ymdrechion i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon. Mae gwella’r ffordd y mae data’n cael eu rhannu, a chanolbwyntio ar arferion cynhwysol, yn hanfodol i sicrhau cynnydd. Mae rhai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dechrau sylweddoli’r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau wrth ddefnyddio data’n ddienw, er mwyn adeiladu ar dystiolaeth ei gilydd yn hytrach na chreu rhywbeth newydd bob tro a gor-ymgynghori â rhai cymunedau.
Felly, beth allwn ni ei wneud i feithrin gwir gysylltiadau?
- Mae codi ymwybyddiaeth ac addysgu’n hunain am ddiwylliannau’r cymunedau yr ydym eisiau ymgysylltu â nhw, a’u cefndiroedd, yn allweddol.
- Mae amseru’n bwysig; mae ceisio osgoi dyddiadau crefyddol neu ddiwylliannol, a dewis amserau priodol ar gyfer cyfarfodydd, yn dangos parch.
- Mae ymrwymo i beidio â gwneud unrhyw niwed a sicrhau nad yw prosesau ymgysylltu yn tynnu oddi wrth bobl, yn hanfodol. Mae hyn yn golygu gwerthfawrogi amser pobl, osgoi addo gormod, a mynd ati’n weithgar i geisio adborth.
- Mae’n hanfodol dewis y lleoliad a’r dull ymgysylltu iawn. Mae ffurfio partneriaeth gyda sefydliadau cymunedol ac unigolion sydd â rhwydweithiau wedi eu sefydlu’n barod, yn meithrin ymddiriedaeth ac yn golygu bod modd cael cydberthnasau hirdymor. Mae buddsoddi mewn grwpiau cymunedol o leiafrifoedd ethnig trwy gyllido, meithrin gallu a sicrhau mynediad at wasanaethau hanfodol, yn allweddol er mwyn grymuso cymunedau sy’n aml yn cael eu hesgeuluso.
- Mae cyfathrebu effeithiol wrth galon ymgysylltu llwyddiannus. Mae’n hollbwysig ystyried anghenion cyfathrebu amrywiol, defnyddio iaith gynhwysol, a meddwl am lefelau llythrennedd. Mae allgymorth digidol yn gallu ehangu cwmpas yr ymgynghori, ond mae’n hanfodol sicrhau cynhwysiant.
Pan fydd ymgysylltu’n cael ei wneud yn dda, mae yna fuddion niferus. Mae’n dylanwadu ar bolisi, yn gwella dealltwriaeth o gymunedau, yn adeiladu cydberchnogaeth dros y canlyniadau, ac yn meithrin ymddiriedaeth. Ond, pan fydd yn anodd meithrin cysylltiad, mae ymgysylltu â chynrychiolwyr allweddol y gymuned, cysylltu â Chynghorau Gwirfoddol Sirol a blaenoriaethu cydberthnasau o ymddiriedaeth, yn strategaethau allweddol.
Er mwyn ymgysylltu â chymunedau sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd, mae angen gweithredu â bwriad, amynedd ac ymrwymiad i gynhwysiant. Trwy gael gwared ar labeli, deall heriau unigryw, a chofleidio amrywiaeth, gallwn adeiladu arferion ymgysylltu sy’n wirioneddol gynhwysol ac sydd o fudd i bawb. Mae’n golygu mwy na chyrraedd cymunedau; mae’n golygu meithrin gwir gysylltiad â nhw.
Mae’r blog hwn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Ross Thomas o Tai Pawb yn rhan o Rwydwaith Dysgu ar y Cyd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn Project Dewi. Cynlluniwyd yr is-rwydwaith hwn er mwyn annog pobl sy’n gysylltiedig â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i rannu arfer da ac i gynorthwyo’i gilydd gyda’u heriau, ac i gefnogi’r broses hon. Cofiwch gysylltu os hoffech chi gymryd rhan: [email protected].