
Mae gan anghydraddoldebau iechyd wreiddiau dwfn yn systemau'r gorffennol, maen nhw’n cael eu siapio gan wirioneddau’r presennol, a byddant yn parhau i esblygu ar sail y dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud ar gyfer y dyfodol. Yn ein digwyddiad diweddar yn y Gyfres Ymgyfraniad, fe fuon ni’n archwilio'r ddynameg hon gan ddefnyddio fframwaith Triongl y Dyfodol. Roedd yr ymarfer hwn yn annog cyfranogwyr i feddwl am dri phersbectif: Atyniad y Dyfodol, Sbardun y Presennol, a Phwysau'r Gorffennol. Trwy hyn, aethom ni ati i ddatgelu mewnwelediadau gwerthfawr ynghylch sut i siapio system iechyd decach a mwy cynaliadwy.
Atyniad y dyfodol: beth yw'r canlyniadau iechyd rydyn ni eisiau eu gweld yn 2050?
Fe fu’r cyfranogwyr yn peintio gweledigaeth o ddyfodol lle mae gofal iechyd yn rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol, gyda ffocws cryf ar atal. Nodwyd gweithgarwch corfforol, bwyta'n iach a byw'n gynaliadwy fel elfennau allweddol wrth leihau baich salwch cronig.
Roedd system iechyd wirioneddol deg yn ddyhead mawr arall - un lle nad yw mynediad yn cael ei bennu gan incwm, lleoliad na sgiliau digidol. Pwysleisiodd pobl bwysigrwydd cyd-gynhyrchu, gan sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu dylunio gyda'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac ar eu cyfer. Roedd cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl hefyd yn flaenoriaeth gref, yn y gobaith y byddai'n cael ei ymgorffori ar draws pob cam mewn bywyd, o blentyndod i henoed.
Fodd bynnag, cydnabuwyd hefyd fod yna heriau. A fyddai technoleg yn gwella mynediad neu'n creu rhwystrau newydd? A fyddai cyllid a phrinder yn y gweithlu'n arafu cynnydd? Mae'r ansicrwydd hwn yn amlygu pa mor gymhleth ydy gwneud gwelliannau parhaol.
Sbardun y presennol: beth yw'r tueddiadau a'r gyrwyr ar hyn o bryd, sy'n creu newid yn y system iechyd?
Mae'r tueddiadau mewn gofal iechyd ar hyn o bryd yn rhai cymysg. Mae datblygiadau technolegol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gofal gwell, mwy personol. Serch hynny, mae allgáu digidol yn dal i fod yn rhwystr, yn enwedig i oedolion hŷn a chymunedau gwledig.
Amlygwyd gwasanaethau iechyd meddwl fel maes lle mae'r galw lawer yn uwch na'r cymorth sydd ar gael, yn enwedig i bobl ifanc. Mae clefydau cronig, sy'n cael eu gyrru gan ddiet gwael, diffyg ymarfer corff, a ffactorau amgylcheddol, hefyd yn cynyddu, gan ychwanegu at y straen ar y system.
Nododd y cyfranogwyr brinder yn y gweithlu, cyfyngiadau ar gyllid, a diffyg cydlynu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol fel heriau sylweddol. Yn rhy aml, mae gofal iechyd yn dal i fod yn adweithiol yn hytrach nag ataliol, ac mae’r gwasanaethau'n camu i mewn ar adegau o argyfwng yn unig. Roedd cylchoedd cyllido tymor byr hefyd yn cael eu gweld fel rhwystr allweddol, ac felly roedd yn anodd sefydlu newid parhaol.
Roedd ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus yn bryder mawr arall. Er bod strategaethau cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad yn ennill tir, mae eu gwir effaith yn dal i fod yn ansicr am fod rhai uwch-arweinwyr yn araf i gofleidio dull gweithredu mwy hirdymor.
Pwysau'r gorffennol: beth yw'r gwaddol a’r systemau sydd wedi ein harwain at y system iechyd sydd gennym heddiw?
Mae anghydraddoldebau hanesyddol yn dal i ddylanwadu ar ein canlyniadau iechyd heddiw. Mae ein poblogaeth wedi dod yn fwyfwy amrywiol ac nid yw'r anghenion sy'n deillio o hynny wedi cael eu diwallu bob tro. Mewn gofal mamolaeth, er enghraifft, mae mamau Du yn dal i wynebu risgiau anghymesur o uchel, ac mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am newid systemig.
Roedd symud i ffwrdd o ofal iechyd lleol, a yrrir gan y gymuned, yn bryder allweddol arall. Wrth i wasanaethau ddod yn fwy digidol a chanolog, mae llawer o bobl, yn enwedig y rheiny sy'n cael trafferth i fynd ar-lein, wedi cael eu hallgau. Roedd galwad gref i adfywio agweddau ar fodelau gofal iechyd traddodiadol, fel meddygon teulu a rhwydweithiau cymorth cymunedol clos.
Mae penderfyniadau economaidd a pholisi y gorffennol yn parhau i ddylanwadu’n drwm ar anghydraddoldebau iechyd heddiw. Mae'r system fwyd, sy’n cael ei llywio gan ddiwydiannu a chynhyrchu ar raddfa helaeth, wedi cyfrannu at ddietau afiach, anhygyrch ac anfforddiadwy. Mae polisïau tai hefyd wedi methu ag ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd am y cysylltiadau rhwng tai diogel, fforddiadwy ac iechyd da.
Mae stigma ynghylch iechyd meddwl, a oedd unwaith yn gyffredin a hyd yn oed wedi’i droseddoli, yn dal i lechi yn y cefndir. Er y gwelwyd cynnydd yn y maes hwn, mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhwystrau wrth geisio cael cymorth. Mae'r gorffennol yn dal i daflu cysgod hir dros ymdrechion i sicrhau bod gofal iechyd yn decach ac yn fwy hygyrch.
Llunio Dyfodol Credadwy i Sicrhau Tegwch mewn Iechyd
Trwy archwilio'r tri dimensiwn hyn, gallwn ddechrau mapio'r camau y mae angen eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd. Rhaid i bwyslais cryfach ar atal, buddsoddi mewn presgripsiynu cymdeithasol, a mynd i'r afael â ffactorau cymdeithasol fel tai ac addysg, fod yn rhan o'r ateb.
Bydd ymgysylltu â'r gymuned a chyd-gynhyrchu yn hanfodol. Ond, er mwyn i'r dulliau hyn wneud gwahaniaeth go iawn, mae angen newid yn y pŵer, y modelau cyllido, a meddylfryd sefydliadau. Heb newid systemig, mae yna berygl y bydd cyd-gynhyrchu yn ddim mwy na gair poblogaidd arall, yn hytrach nag offeryn ystyrlon ar gyfer trawsnewid.
Gallai technoleg fod yn allweddol, ond dim ond os yw'n gwella hygyrchedd yn hytrach na chreu rhaniadau newydd. Rhaid meddwl am gynhwysiant wrth ddylunio atebion iechyd digidol, a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Efallai mai'r peth mwyaf i’w ddysgu o'r ymarfer hwn yw bod newid go iawn yn cymryd amser. Ni fydd atebion cyflym yn ddigon i ddatgymalu anghydraddoldebau iechyd sydd wedi bodoli ers amser maith. Mae'r weledigaeth ar gyfer 2050 yn un uchelgeisiol, ond mae o fewn ein cyrraedd, os allwn ni gydnabod pwysau'r gorffennol, ffeindio’n ffordd trwy heriau'r presennol, a chymryd camau ar y cyd i sicrhau dyfodol tecach, mwy cynhwysol.
Mae’r meddyliau hyn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd mewn digwyddiad Cyfres Ymgyfraniad a gynhaliwyd drwy Brosiect Dewi. Diolch i Petranka Malcheva o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru am gynnal sesiwn ar Feddwl am y Dyfodol gyda ni.
Fel rhan o Brosiect Dewi, ein nod yw rhannu arfer da a chynorthwyo’i gilydd gyda’u heriau, a chefnogi’r broses honno. Cofiwch gysylltu os hoffech gymryd rhan: [email protected].