Mynd i'r cynnwys

Pum peth rydyn ni wedi’u dysgu o'n digwyddiad 'O dlodi i ffyniant'

Yn ein digwyddiad diweddar yn y Gyfres Ymgyfraniad yn Aberystwyth, fe fuon ni’n archwilio sut y gall dinasyddion helpu i wireddu'r nod o sicrhau Cymru Lewyrchus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Trwy brofiad panelwyr, trafodaeth ac ymarfer Caffi'r Byd, fe aethon ni ati i ddadorchuddio mewnwelediadau allweddol ynghylch rôl iaith, cydweithio ac ymgyfraniad dinasyddion wrth fynd i'r afael â thlodi a sbarduno newid ystyrlon. Dyma chwech o’r prif bethau a ddysgwyd ar y diwrnod.

1. Pŵer iaith: fframio'r sgwrs ar gyfer cynhwysiant

Mae iaith yn ddylanwad hanfodol ar y ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â thrafodaethau ynghylch tlodi, ond mae dod o hyd i'r cydbwysedd iawn yn allweddol. Fe fu’r panelwyr Dave Gittins, cyfarwyddwr Asiantaeth Ynni Severn Wye, a Sophie Buckley, rheolwr rhaglen Cryfhau Cymunedau gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), yn tynnu sylw at y ffaith fod termau fel 'tlodi' weithiau’n gallu bod yn rhwystr – mae yna lawer o bobl sydd ddim yn uniaethu â'r label ac efallai na fyddant eisiau bod yn rhan o’r sgyrsiau oherwydd hynny.

Ar yr un pryd, rhybuddiodd eraill yn erbyn meddalu’r iaith i'r pwynt lle mae realiti tlodi yn cael ei guddio. Fel y dywedodd Geraldine Murphy o Gyngor ar Bopeth Sir Benfro, "dydy esgus bod tlodi ddim yn bodoli ddim yn beth iawn i’w wneud nac yn beth moesegol i'w wneud". Mae cydnabod tlodi'n agored, a sicrhau ar yr un pryd fod iaith yn gynhwysol ac yn grymuso, yn gydbwysedd delicet ond angenrheidiol.

Gall sefydlu iaith gyffredin sy'n briodol ar gyfer y lleoliad ac sy’n cael ei datblygu ar y cyd â chymunedau, helpu i adlewyrchu profiadau bywyd heb atgyfnerthu stigma, a chreu sgyrsiau sy'n agored ac yn grymuso, gan sicrhau bod y rheiny y mae tlodi yn effeithio arnynt yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynnwys.

2. Datgelu 'tlodi cudd' a heriau yng nghefn gwlad

Mae yna risg o weld tlodi a ffyniant o safbwynt ariannol yn unig. Ond, y gwir yw eu bod nhw’n cynnwys llawer mwy – mae tlodi o ran cyfleoedd, hyder a phrofiad i gyd yn gallu cyfrannu at gylch ailadroddus.

Mae tlodi yng nghefn gwlad yn aml yn parhau i gael ei esgeuluso oherwydd gwasgariad daearyddol, cysylltiadau trafnidiaeth gwael, a mynediad cyfyngedig at wasanaethau. Mewn rhai cymunedau, mae diffyg llwybrau bysiau neu glybiau ieuenctid wedi bodoli erioed, ac felly mae’n anoddach cydnabod y bylchau hyn fel rhwystrau go iawn y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Yr her yw dod â’r materion hyn i’r amlwg fel materion gweladwy, ond hefyd sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rheiny sydd â’r angen mwyaf amdano. Mae ymgysylltu mewn cymunedau gwledig yn gallu bod yn arbennig o anodd - efallai y bydd angen ymdrech sylweddol i gysylltu â nifer fach o bobl. Oherwydd hynny, mae mannau cyfarfod hygyrch a dulliau gweithredu sy'n cael eu gyrru gan y gymuned, yn hanfodol i sicrhau newid ystyrlon.

3. Mesur llwyddiant: tu hwnt i fetrigau traddodiadol

Mae holi ni'n hunain, 'beth ydyn ni'n ei olygu wrth lwyddiant?' yn gam cyntaf pwysig wrth i ni geisio deall ble rydyn ni a ble rydyn ni eisiau bod. Dydy dangosyddion economaidd traddodiadol ar eu pen eu hun ddim yn llwyddo i ddal yr hyn y mae ffyniant yn ei olygu i gymunedau yn llwyr. Yn ystod y trafodaethau, amlygwyd yr angen i fesur llwyddiant trwy brofiad bywyd, llesiant cymunedol, a gallu pobl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Gall dulliau a awgrymir fel y 'Newid Mwyaf Arwyddocaol' a gwerthusiadau sy’n seiliedig ar le, helpu i asesu effaith go iawn. Y nod yw i fwy o bobl deimlo eu bod yn chwarae rhan weithgar wrth ddylanwadu ar siâp gwasanaethau, gan wybod bod eu cyfraniadau yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cyfrannu at gyflawni canlyniadau a rennir ar gyfer eu cymunedau.

4. Mae yna lwybrau i gymunedau yn barod

Mae sefydliadau'r trydydd sector ac asedau cymunedol presennol yn llwybrau hanfodol i mewn i gymunedau. I lawer o bobl sy'n profi tlodi, elusennau a sefydliadau arbenigol yw'r lle cyntaf i fynd i gael cymorth, yn aml cyn iddyn nhw fynd at y gwasanaethau statudol. Mae'r sefydliadau hyn, ynghyd â rhwydweithiau, busnesau a mentrau cymunedol lleol, wedi meithrin perthnasau dibynadwy, gan greu cysylltiadau parod y gellir eu defnyddio i gyrraedd y rheiny sydd ag angen, a’u cefnogi.

Mae gan y cymunedau eu hunain gyfoeth o asedau a all chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â thlodi. Yn aml, rhwydweithiau anffurfiol, lledu’r gair a hyrwyddwyr cymunedol yw'r glud sy'n dal systemau cymorth lleol at ei gilydd. Mae asedau fel ysgolion gwledig, brecwast ffermwyr, mentrau cymdeithasol, a digwyddiadau diwylliannol hefyd yn cyfrannu at gydnerthedd cymunedol.

Rhaid cydnabod sefydliadau'r trydydd sector a'r asedau cymunedol hyn fel partneriaid allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi - nid fel ôl-ystyriaeth ond fel rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau. Rhaid i gydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus, y sector gwirfoddol, a mentrau ar lawr gwlad fod yn broses hirdymor a rhagweithiol, yn hytrach nag ymateb i argyfyngau yn unig.

5. Yr awydd cynyddol am gydweithio ac ymgyfraniad ystyrlon

Un o'r negeseuon cryfaf a ddaeth i’r amlwg yn y digwyddiad oedd y brwdfrydedd cynyddol dros gyd-gynhyrchu. Mynegodd llawer o gyfranogwyr awydd i sicrhau bod ymgyfraniad ystyrlon i ddinasyddion yn dod yn ‘norm’ yn hytrach nag yn eithriad.

Serch hynny, roedd yna gydnabyddiaeth gref hefyd fod yn rhaid sicrhau bod yr ymgyfraniad yn cael ei wneud dda. Pwysleisiodd Dave Gittins y "dylai'r baich fod ar y darparwr gwasanaethau i sicrhau bod yr amseru’n iawn i'r rheiny sy'n ymgyfrannu", a thynnodd sylw at bwysigrwydd cynllunio ymgyfraniad o amgylch argaeledd pobl a’u hanghenion. Atgyfnerthodd Sophie Buckley hyn, gan ddweud y dylai "cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd wrth gynllunio gwasanaethau fod yn ofyniad, ac nid yn opsiwn ychwanegol yn unig ".

Symud ymlaen

Mae'r mewnwelediadau o'n digwyddiad yn cadarnhau bod sicrhau Cymru Lewyrchus yn gofyn am fwy na thwf economaidd - mae'n gofyn am newid yn y ffordd yr ydyn ni’n siarad am dlodi, yn mesur llwyddiant, ac yn cynnwys cymunedau wrth lunio atebion, gan alinio arfer â rhai'r Economi Llesiant efallai..

Wrth i ni symud ymlaen, mae arnom angen adeiladu ar y trafodaethau hyn er mwyn creu dulliau mwy cynhwysol, a arweinir gan y gymuned, wrth fynd i'r afael â thlodi. Mae'r awydd am newid yno - nawr rhaid gweithredu’r hyn a ddysgwyd.

Eisiau dylanwadu ar benderfyniadau lleol a chenedlaethol i fynd i'r afael â stigma tlodi? Mae Rhwydwaith Deall Stigma Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal eu cyfarfod ar-lein nesaf ar 12 Chwefror 2025, 10:00 – 12:00. Ewch yma i gofrestru!!