Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn gyffrous i gyhoeddi gwahoddiad i dendro ar gyfer y gwaith o werthuso Prosiect Dewi, sef ein rhaglen 5-mlynedd sy’n anelu at sefydlu arferion cyd-gynhyrchu o fewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle unigryw i werthuswr profiadol weithio gyda ni er mwyn dogfennu taith Prosiect Dewi ac asesu ei effaith ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru.
Mwy am Brosiect Dewi
Lansiwyd Prosiect Dewi ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2021 ac fe’i ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’n rhaglen 5-mlynedd sydd wedi ymrwymo i feithrin ymgyfraniad cymunedol ystyrlon o fewn y BGCau. Mae gan Brosiect Dewi ddwy elfen greiddiol:
- Cefnogaeth wedi’i theilwra’n arbennig i BGCau: Rydyn ni’n gweithio'n uniongyrchol gyda thri chlwstwr o BGCau rhanbarthol (Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru, a Chwm Taf Morgannwg) i hyrwyddo eu harfer ymgysylltu ac ymgyfraniad, gan gefnogi'r symudiad tuag at wasanaethau cyhoeddus sydd wedi eu cyd-gynhyrchu’n llwyr.
- Rhwydwaith Rhannu Dysgu: Llwyfan ar gyfer rhannu gwybodaeth yw’r Rhwydwaith Rhannu Dysgu ac mae’n cysylltu rhanddeiliaid ar draws Cymru, gan ddarparu adnoddau a chyfleoedd i ddysgu am gyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad.
Mae ein ffordd o weithio gyda BGCau yn ymdrochi ac yn ymarferol: rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â thimau BGCau i feithrin gallu, hyder a chydberthnasau a fydd yn cynnal arferion cyd-gynhyrchiol yn y tymor hir.
Pam rydyn ni’n chwilio am Bartner Gwerthuso
Wrth i ni ddechrau ar flwyddyn olaf Prosiect Dewi, rydyn ni eisiau cael mewnwelediadau manylach i ganlyniadau’r prosiect, yr heriau a’i effaith ar ddiwylliant gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn benodol, rydyn ni eisiau deall beth sydd wedi gweithio'n dda, beth fyddai’n gallu cael ei wella, a sut y gall ein dulliau a'n hadnoddau gefnogi newid parhaus sy'n cael ei yrru gan y gymuned. Bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i fyfyrio ar ein cynnydd, mireinio ein strategaethau, a pharatoi at ddyfodol cyd-gynhyrchu yng Nghymru.
Yr hyn yr ydyn ni’n chwilio amdano
Rydyn ni’n gwahodd cynigion gan werthuswyr sydd ag arbenigedd mewn dulliau cyfranogol a chyd-gynhyrchiol, a dealltwriaeth gref o dirwedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Bydd y gwerthuswr llwyddiannus yn ein helpu i archwilio themâu allweddol, gan gynnwys:
- Effaith Prosiect Dewi ar arferion BGCau ac ymgyfraniad cymunedol
- Effeithiolrwydd ein dull gweithredu ymarferol mewn rhanbarthau gwahanol
- Heriau yr ydyn ni wedi eu hwynebu wrth weithio gyda BGCau a sut yr ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw
- Cyfraniadau at newid diwylliannol a sefydliadol hirdymor o fewn BGCau
Bydd y gwerthusiad yn ymgysylltu â grŵp amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau BGCau, cynrychiolwyr cymunedau, Llywodraeth Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Manylion Allweddol
- Cyllideb: £10,000 (yn cynnwys TAW)
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16 Rhagfyr 2024
- Cyfnod y contract: 1 Mawrth 2025 – 28 Chwefror 2026
Os ydych chi'n angerddol am ddefnyddio gwerthuso i yrru newid cymdeithasol ac os oes gennych y sgiliau i grisialu stori Prosiect Dewi, bydden ni wrth ein bodd i glywed gennych! Mae’r manylion llawn yn ein dogfen ‘gwahoddiad i dendro’ y gallwch ei lawrlwytho yma. Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech gyflwyno'ch cynnig, cysylltwch â Rachel Wolfendale trwy anfon neges e-bost i [email protected]