
Mae’r Adroddiad Dyfodol Gwledig a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlygu’r camau breision a wnaed wrth fynd i’r afael â thlodi gwledig ledled Cymru. Ariannwyd Rhaglen saith-mlynedd Dyfodol Gwledig gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac fe ddaeth â 14 o gymunedau at ei gilydd i roi sylw i’r heriau unigryw maen nhw’n eu hwynebu. Dyma chwe pheth allweddol yr ydyn ni wedi eu dysgu o’r adroddiad:
1. Meithrin sgiliau a gallu
Mae’r Rhaglen Dyfodol Gwledig wedi llwyddo i gyfoethogi sgiliau a gallu cymunedau gwledig. Mae wedi gwneud hynny trwy ddatblygu a gweithredu prosiectau sy’n rhoi sylw i anghenion lleol, sicrhau cyllid a gweithredu atebion effeithiol. Mae sawl grŵp nawr yn datblygu prosiectau dilynol i barhau â’r broses hon, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud cynnydd parhaus wrth fynd i’r afael â thlodi yng nghefn gwlad.
2. Rhoi sylwi i dlodi yn ei wreiddiau
Un o gyraeddiadau amlwg y rhaglen yw gweld cymunedau yn archwilio’r achos wrth wraidd problemau sy’n gysylltiedig â thlodi yng nghefn gwlad gyda’i gilydd, ac yn cyd-gynhyrchu eu hatebion eu hunain. Mewn llawer o gymunedau fe fydd cael lle i gwrdd ac i archwilio syniadau yn gatalydd ar gyfer gwaith dilynol ac yn sefydlu dealltwriaeth ddyfnach o’r materion a chreu ymyriadau mwy cynaliadwy ac effeithiol.
3. Mae ymatebion a arweinir gan y gymuned yn hanfodol
Mae pwysigrwydd ymatebion a arweinir gan y gymuned mewn polisïau gwrthdlodi a datblygu gwledig yn hanfodol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at fentrau fel creu cwmni budd cymunedol newydd Yr Ardd yn Llandysul, Ceredigion mewn ymateb i bryderon am ddiogeledd bwyd, ac adnewyddu mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach mewn ysgol leol yn Neiniolen, Gwynedd er mwyn integreiddio ac uwchsgilio’r gymuned. Mae’r mentrau hyn yn dangos sut y gall cymunedau ddod yn fwy cydlynol a chydnerth trwy ddeall anghenion lleol ac adeiladu ar gydberthnasau sydd eisoes yn bodoli i gyflawni newid ystyrlon.
4. Dylanwadu ar bolisi er mwyn cael effaith ehangach
Mae tystiolaeth o’r Rhaglen Dyfodol Gwledig wedi bod yn allweddol wrth ddylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud â pholisi. Trwy ddarparu mewnwelediadau a data trwy ddogfennau fel y pecyn cymorth ‘Mewnwelediadau Cynnar’, mae’r rhaglen wedi cefnogi’r rheiny sy’n llunio polisïau i wneud penderfyniadau deallus sydd o fudd i ardaloedd gwledig. Mae’r dylanwad hwn yn ymestyn y tu hwnt i ymyriadau di-oed ac yn cyfrannu at amgylchedd mwy cefnogol ar gyfer cymunedau gwledig.
5. Datblygu partneriaethau effeithiol
Mae asiantaethau a sefydliadau lleol wedi eu harfogi’n well i gefnogi cymunedau trwy gydweithio ar sail gwybodaeth. Datblygodd pob prosiect bartneriaethau gyda sefydliadau ac asiantaethau lleol, ac mewn llawer o achosion newydd datblygwyd cydberthnasau newydd i greu grwpiau newydd neu i alluogi gweithgareddau newydd. Yn aml, roedd prosiectau’n creu cyfleoedd, ac yn aml arweiniodd hyn at gyd-leoli gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.
6. Straeon llwyddiant o fywyd go-iawn
Mae gan yr adroddiad gyfoeth o astudiaethau achos sy’n dangos buddion amlwg y Rhaglen Dyfodol Gwledig. O ddatblygiad gwasanaethau lleol fel siop fwyd ac oriel newydd ym Mro Machno, Conwy, i bentrefi Cilgeti a Begeli, sydd drws nesaf i’w gilydd, yn datblygu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, mannau cynnes a gweithgareddau i roi sylw i ynysu yng nghefn gwlad. Mae’r straeon hyn yn amlygu effaith go-iawn ac yn ysbrydoliaeth ac yn fodelau i gymunedau gwledig eraill sy’n wynebu heriau tebyg.
Mae’r Adroddiad Dyfodol Gwledig yn pwysleisio pŵer ymgyfraniad y gymuned wrth roi sylw i dlodi yng nghefn gwlad. Trwy ganolbwyntio ar feithrin gallu, rhoi sylw i’r achosion wrth wraidd tlodi, datblygu partneriaethau a dylanwadu ar bolisi, mae’r rhaglen wedi gosod meincnod ar gyfer mentrau’r dyfodol. Yn yr adroddiad ceir ysbrydoliaeth i wasanaethau cyhoeddus efelychu’r llwyddiannau hyn ac adeiladu arnynt, ac mae’r chwe gwers hyn yn fap trywydd i rymuso cymunedau gwledig a mynd i’r afael â thlodi yn ei graidd. Darllenwch y cyfan yma..