Brosiect Dewi yw ein rhaglen waith 5 mlynedd gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yng Nghymru, a ariennir drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y rhaglen ar 1 Mawrth 2021 – Dydd Gŵyl Dewi yma yng Nghymru.
Mae dwy elfen i'r prosiect: mae un yn darparu cefnogaeth bwrpasol i dri chlwstwr o BGCau; y llall yw ein Rhwydwaith Rhannu Dysgu, lle rydym yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol am gyd-gynhyrchu a ymgyfraniad.

Rydym yn gweithio ar lefel ymarferol gyda chlwstwr o BGC to support the development of their practice of meaningful engagement and involvement, moving towards full co-production. We are:
- Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â thimau’r BGC i gefnogi gweithredu ymarferol ac i ddatblygu eu gallu, eu capasiti a’u hyder. Nid ymgynghorwyr sy’n mynd â’r gwaith i ffwrdd ac yn ei wneud ar eu rhan mohonom. Yn hytrach, rydyn ni’n gweithio gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Trwy ddysgu o brofiad a gweithio ar faterion perthnasol a dybryd, rydyn ni’n cyfrannu at newid ymddygiadau a diwylliannau.
- Creu’r amodau ar gyfer cysylltiadau cynaliadwy ymhlith sefydliadau a gyda chymunedau a dinasyddion, trwy seilwaith o ymgyfraniad parhaus. Mae cysylltiadau’n hanfodol i gydgynhyrchu a gweithredu mewn cymhlethdod, ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor y gwaith yma.
- Datblygu cyfleoedd ymgysylltu arwyddocaol , gan gynnwys gyda lleisiau nas clywir yn aml, sy’n arwain at ymgyfraniad cymunedau wrth gydgynhyrchu atebion lleol, lle mae pobl a gweithwyr proffesiynol yn defnyddio eu cryfderau ac adnoddau i wireddu newid cadarnhaol.
Adnoddau ar gyfer ymgyfraniad
Archwiliwch ein llyfrgell lawn o offer a chanllawiau ar gyfer cyd-gynhyrchu gyda phobl mewn amrywiaeth o leoliadau, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n edrych i ddyfnhau eich ymarfer. O'n pecyn sleidiau cyd-gynhyrchu ar gyfer partneriaid ac arweinwyr y BGC, i adnoddau ar sefydlu grŵp profiad byw fel rhan o'ch strategaeth ymgyfraniad, mae cefnogaeth ymarferol ar gyfer pob cam.
Mae ein hadnoddau hefyd yn cefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Pum Dull o Weithio drwy helpu i symud o ddiwylliant 'gwneud i' i un o 'gweithio gyda'.
Dysgu mwy
Os hoffech wybod mwy am y rhaglen, gan gynnwys ein Rhwydwaith Rhannu Dysgu, cysylltwch â ni, rydym wastad yn hapus i glywed gan bobl newydd.

Becky Lythgoe
Cwm Taf Morgannwg

Gareth Pahl
Cwm Taf Morgannwg

Mererid Lewis
Gorllewin Cymru

Mandy Williams
Gorllewin Cymru

Mike Corcoran
Gogledd Cymru

Rebecca Colley-Jones
Gogledd Cymru

Ariennir Prosiect Dewi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: Cefnogi Syniadau Mawr.

