Yn y bôn, mae cydgynhyrchu’n golygu bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth gyda phobl sydd wedi cael profiadau byw, i ddatblygu atebion i heriau mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau.
Mae’r diffiniad rydym yn ei ddefnyddio fel a ganlyn:
Dull o weithio a seilir ar asedau yw cyd-gynhyrchu mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n galluogi pobl sy’n darparu a phobl sy’n derbyn gwasanaethau i rannu grym a chyfrifoldeb, ac i gydweithio trwy gysylltiadau cyfartal, dwyochrog a gofalgar. Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fo’i angen, ac i gyfrannu at newid cymdeithasol.
Ffordd o feddwl a dull o weithio yw, a seilir ar y 5 gwerth hyn:





Gwerthfawrogi pobl a magu eu cryfderau
Datblygu rhwydweithiau sy’n gweithredu draws seilo
Canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r bobl dan sylw
Meithrin cysylltiadau a seilir ar ffydd a grym a rennir
Galluogi pobl i ysgogi newid
Mae gennym Sylfaen Wybodaeth sy’n cynnwys gwybodaeth am gyd-gynhyrchu a digonedd o astudiaethau achos. Mae Adran 1 yn delio gyda "beth yw cyd-gynhyrchu”. Mae’r adnoddau hynny ar gael yma, ac oddi yno gallwch archwilio gweddill y Sylfaen Wybodaeth.
Beth yw’r cysylltiad rhwng hyn ac ymgyfraniad?
Ymgyfraniad yw un o’r 5 ffordd o weithio sy’n greiddiol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n amlygu ‘pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn gwireddu’r nodau llesiant, a sicrhau fod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a wasanaethir gan y corff.’
Yng nghyd-destun polisi Cymru, rydym yn defnyddio’r gair ymgyfraniad (hynny yw, cyfraniad gan ddinasyddion neu gymunedau) ochr yn ochr â’r gair cyd-gynhyrchu oherwydd o safbwynt ymarferol, maent mor debyg i’w gilydd.

"Rwyf wedi dysgu ymddiried yn fy hunan mwy, ond hefyd i gael ffydd yng nghapasiti pobl eraill i gael hyd i atebion sy’n bodloni eu hanghenion nhw. Mae wedi rhoi caniatâd imi fod yn ddewrach, ond yn fwy dynol wrth drafod gyda chyllidwyr a chomisiynwyr sydd yn y pen draw wedi arwain at drafodaethau mwy didwyll ac arwyddocaol." - Sian Davies, Mencap Cymru, Pennaeth Effaith a Dysgu