Croeso!
Cymuned o bobl ydym, sy’n credu yng ngwerth cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Byddai’n hyfryd cael eich cwmni.

Ydy cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad yn newydd ichi? Dyma’r hyn a olygir ganddo:

Rydym yn cynnal sesiynau briffio, hyfforddiant a digwyddiadau a seilir ar themâu ar gyfer aelodau.

Rydym yn cysylltu â’n gilydd ac yn dysgu o arferion a rennir.

Mae ein llais ar y cyd yn helpu dylanwadu ar bolisi a phenderfyniadau a wneir.
Gellir dysgu mwy am yr hyn a gynigir trwy’r gymuned ymarfer!
Ymunwch â ni:
Mae aelodaeth ar agor i bawb sydd â diddordeb mewn cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad mewn gwasanaethau cyhoeddus, boed yn ddinesydd neu wirfoddolwr, yn weithiwr proffesiynol gyda gwasanaeth cyhoeddus neu yn y trydydd sector ar unrhyw lefel, yn academydd neu ymchwilydd, yn swyddog ac unigolyn sy’n gyfrifol am lunio polisi gyda llywodraeth leol neu genedlaethol…..ac wrth gwrs unrhyw gyfuniad o’r uchod!

Mae gennych ddiddordeb personol neu broffesiynol mewn cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad. Rydych yn awyddus i ymuno â’r gymuned ymarfer, a chysylltu â phobl eraill sydd â gwerthoedd tebyg.
Mae’r aelodaeth ar gyfer unigolyn yn rhad ac am ddim am byth: gall unrhyw un sydd â diddordeb ymaelodi heb unrhyw gyfyngiadau o ran cost neu ganiatâd.

Mae gan eich sefydliad ymrwymiad strategol a gweithredol i gyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Rydych yn awyddus i ddatblygu eich tîm a’ch arferion sefydliadol.
Mae’r ffioedd ymaelodi ar gyfer timau’n ein galluogi i fod yn gynaliadwy, a chynnig cymorth ychwanegol ar gyfer eich hyrwyddwyr cyd-gynhyrchu.
Cadw mewn cysylltiad!
Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol llawn gwybodaeth am gyd-gynhyrchu ac uchafbwyntiau.

Anfonwch neges at [email protected] neu ffoniwch ni. Dyma ein manylion cyswllt:
